RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.
Amrywiol ac atodol
39Dehongli
(1)
Yn y Rhan hon—
F1...
ystyr “gorchymyn datblygu” (“development order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 59 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
(2)
Pan fo tir nad yw’n fwy na chyfanswm o 400 o fetrau sgwâr o ran ei arwynebedd yn cael ei osod o dan denantiaeth a wnaed gyda golwg ar ddefnyddio’r tir fel safle rheoleiddiedig, at ddibenion y Rhan hon ystyr “perchennog”, o ran y tir, yw’r person y byddai ganddo hawl i feddiant ar y tir heblaw am hawliau unrhyw berson o dan y denantiaeth honno.
(3)
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at wneud gwaith yn cynnwys cyfeiriad at blannu coed a llwyni a gwneud gwaith arall i gadw neu i wella amwynder tir.
(4)
Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at ganiatâd cynllunio i’w gymryd fel cyfeiriad at ganiatâd cynllunio p’un a yw wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd ai peidio neu’n ddarostyngedig i unrhyw amod neu gyfyngiad.F2....