xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CTRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Amrywiol ac atodolLL+C

39DehongliLL+C

(1)Yn y Rhan hon—

(2)Pan fo tir nad yw’n fwy na chyfanswm o 400 o fetrau sgwâr o ran ei arwynebedd yn cael ei osod o dan denantiaeth a wnaed gyda golwg ar ddefnyddio’r tir fel safle rheoleiddiedig, at ddibenion y Rhan hon ystyr “perchennog”, o ran y tir, yw’r person y byddai ganddo hawl i feddiant ar y tir heblaw am hawliau unrhyw berson o dan y denantiaeth honno.

(3)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at wneud gwaith yn cynnwys cyfeiriad at blannu coed a llwyni a gwneud gwaith arall i gadw neu i wella amwynder tir.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon at ganiatâd cynllunio i’w gymryd fel cyfeiriad at ganiatâd cynllunio p’un a yw wedi ei gyfyngu mewn unrhyw ffordd ai peidio neu’n ddarostyngedig i unrhyw amod neu gyfyngiad, ac mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o’r Ddeddf hon at ganiatâd cynllunio yn cynnwys cyfeiriad at ganiatâd cynllunio y bernir ei fod wedi ei roi neu a roddwyd ar ddynodi parth menter o dan Atodlen 32 i Ddeddf Llywodraeth Leol, Cynllunio a Thir 1980.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 39 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)