36Pwerau i godi taliadau: atodolLL+C
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo awdurdod lleol yn bwriadu codi tâl o dan adran 6 neu 13.
(2)Cyn codi’r ffi, rhaid i’r awdurdod lleol lunio a chyhoeddi polisi ar ffioedd.
(3)Wrth bennu ffi at ddibenion adran 6 neu 13 mae’r awdurdod lleol—
(a)yn gorfod gweithredu yn unol â’i bolisi ar ffioedd,
(b)yn cael pennu ffioedd gwahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddisgrifiadau gwahanol o achos, ac
(c)yn cael penderfynu nad oes angen talu ffi mewn achosion penodol neu ddisgrifiadau penodol o achos.
(4)Wrth bennu ffi at unrhyw un neu ragor o’r dibenion hyn, ni chaiff yr awdurdod lleol gymryd i ystyriaeth unrhyw gostau y mae’n mynd iddynt wrth arfer—
(a)ei swyddogaethau o dan unrhyw un neu ragor o adrannau 15 i 25, neu
(b)unrhyw swyddogaethau o dan unrhyw ddarpariaeth o’r Ddeddf hon o ran safle nad yw’n safle rheoleiddiedig.
(5)Caiff yr awdurdod lleol ddiwygio’i bolisi ar ffioedd ac, os yw’n gwneud hynny, rhaid iddo gyhoeddi’r polisi fel y’i diwygiwyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2A. 36 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)