RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Darpariaethau gorfodi eraill

32Pŵer mynediad swyddogion awdurdodau lleol

(1)

Mae gan swyddog awdurdodedig i awdurdod lleol, wedi iddo ddangos (os gofynnir iddo wneud hynny), dogfen awdurdod a ddilyswyd yn briodol, hawl ar bob adeg resymol i fynd i unrhyw dir sy’n safle rheoleiddiedig neu y mae cais am drwydded safle wedi ei wneud ar ei gyfer er mwyn—

(a)

galluogi’r awdurdod lleol i benderfynu pa amodau y dylid eu gosod ar y drwydded safle neu a ddylid amrywio amodau’r trwydded safle,

(b)

canfod a oes unrhyw un neu ragor o ddarpariaethau’r Rhan hon yn cael, neu wedi cael, eu torri ar y tir neu mewn cysylltiad ag ef,

(c)

darganfod a oes amgylchiadau’n bodoli a fyddai’n awdurdodi’r awdurdod lleol i gymryd unrhyw gamau, neu i wneud unrhyw waith, o dan y Rhan hon, neu

(d)

cymryd unrhyw gamau, neu wneud unrhyw waith, yr awdurdodir eu cymryd neu ei wneud gan yr awdurdod lleol gan y Rhan hon.

(2)

Ond rhaid peidio â mynnu mynediad i unrhyw dir fel mater o hawl oni bai bod 24 awr o hysbysiad o’r bwriad i fynd iddo wedi ei roi i’r perchennog.

(3)

Os dangosir er boddhad ynad heddwch—

(a)

bod unrhyw un o’r is-baragraffau canlynol yn gymwys—

(i)

mae mynediad i unrhyw dir wedi ei wrthod,

(ii)

deellir y bydd mynediad yn cael ei wrthod,

(iii)

mae perchennog y tir yn absennol dros dro ac mae’r achos yn achos brys,

(iv)

byddai cais am fynediad yn mynd yn groes i amcan mynd i’r tir, a

(b)

bod sail resymol dros fynd i’r tir at unrhyw ddiben a grybwyllir yn is-adran (1),

caiff yr ynad hedwch drwy warant awdurdodi’r awdurdod lleol drwy gyfrwng unrhyw swyddog awdurdodedig i fynd i’r tir, gan ddefnyddio grym os bydd ei angen.

(4)

Ond rhaid peidio â rhoi gwarant oni bai bod yr ynad heddwch wedi ei fodloni—

(a)

bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am y warant wedi ei roi i’r perchennog,

(b)

bod y perchennog yn absennol dros dro a bod yr achos yn achos brys, neu

(c)

y byddai rhoi hysbysiad yn mynd yn groes i amcan mynd i’r tir.

(5)

Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i unrhyw dir yn rhinwedd yr adran hon, neu yn rhinwedd gwarant a roddwyd odani, fynd ag unrhyw bersonau y mae eu hangen gydag ef.

(6)

Mae pob gwarant a roddir o dan yr adran hon yn parhau mewn grym hyd nes bod y diben y mae angen y mynediad ar ei gyfer wedi ei fodloni.

(7)

Mae person sydd yn fwriadol yn rhwystro unrhyw berson sy’n gweithredu’r adran hon, neu sy’n gweithredu gwarant o dan yr adran hon, yn cyflawni trosedd.

(8)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (7) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 4 ar y raddfa safonol.