RHAN 1CYFLWYNIAD
I1I23Perchnogion safleoedd
Yn y Ddeddf hon ystyr “perchennog”, o ran unrhyw dir, yw’r person—
a
y mae ganddo hawl i feddiannu’r tir, neu
b
y byddai ganddo hawl i feddiannu’r tir heblaw am hawliau unrhyw berson arall o dan unrhyw drwydded neu gontract a roddwyd ar gyfer y tir (gan gynnwys trwydded neu gontract i osod neu i feddiannu cartref symudol yno),
yn rhinwedd ystâd neu fuddiant yn y tir, ond gweler hefyd adrannau 39(2), 42(7) a 55(2)(a).