27Dyletswydd deiliad trwydded safle i ganiatáu i drwydded gael ei newidLL+C
(1)Caiff awdurdod lleol sydd wedi dyroddi trwydded safle ei gwneud yn ofynnol ar unrhyw adeg i’r deiliad wneud beth bynnag y mae’r awdurdod lleol yn credu ei bod yn angenrheidiol i alluogi’r awdurdod lleol i gynnwys ynddi unrhyw amrywiad ar amodau’r drwydded a wneir yn unol â’r Rhan hon.
(2)Os bydd deiliad trwydded safle yn methu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â gofyniad o dan yr adran hon, mae deiliad y drwydded yn cyflawni trosedd.
(3)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (2) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn uwch na lefel 1 ar y raddfa safonol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2A. 27 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)