Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

26Dirymu yn sgil marwolaeth, newid perchnogaeth neu roi’r gorau i ddefnyddio safleLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Pan fo deiliad trwydded safle ar gyfer unrhyw dir yn marw neu’n peidio â bod yn berchennog y tir, dirymir y drwydded safle.

(2)Pan fo tir y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer yn peidio â chael ei ddefnyddio fel safle rheoleiddiedig, dirymir y drwydded safle.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 26 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 26 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)