RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Torri amod

18Hysbysiad cydymffurfio: trosedd a chollfarnau lluosog

(1)

Mae perchennog tir y cyflwynwyd hysbysiad cydymffurfio iddo sydd wedi dod yn weithredol yn cyflawni trosedd os bydd y perchennog yn methu cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 17(1)(b) o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 17(1)(c).

(2)

Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy.

(3)

Mewn achos yn erbyn perchennog tir am drosedd o dan is-adran (1), mae’n amddiffyniad bod gan y perchennog esgus rhesymol dros fethu cymryd y camau y cyfeirir atynt yn is-adran (1) o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn yr is-adran honno.

(4)

Mae is-adran (5) yn gymwys—

(a)

pan gollfernir perchennog tir am drosedd o dan is-adran (1), a

(b)

pan fo’r perchennog wedi ei gollfarnu ar ddau neu fwy o achlysuron blaenorol am drosedd o dan is-adran (1) mewn perthynas â’r drwydded safle y mae’r gollfarn a grybwyllir ym mharagraff (a) yn ymwneud â hi.

(5)

Ar gais gan yr awdurdod lleol a gyflwynodd yr hysbysiad cydymffurfio, caiff y llys y collfarnwyd perchennog y tir ger ei bron wneud gorchymyn yn dirymu’r drwydded safle ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn.

(6)

Rhaid i orchymyn o dan is-adran (5) beidio â phennu dyddiad sydd cyn diwedd y cyfnod pryd y caniateir i hysbysiad o apêl (boed yn ôl yr achos datganedig ynteu fel arall) gael ei roi yn erbyn y gollfarn a grybwyllir yn is-adran (4)(a).

(7)

Pan wneir apêl yn erbyn y gollfarn a grybwyllir yn is-adran (4)(a) gan berchennog y tir cyn y dyddiad a bennir mewn gorchymyn o dan is-adran (5), nid yw’r gorchymyn yn effeithiol—

(a)

hyd nes i’r apêl gael ei phenderfynu’n derfynol, neu

(b)

hyd nes i’r apêl gael ei thynnu’n ôl.

(8)

Ar gais gan berchennog y tir neu gan yr awdurdod lleol a ddyroddodd y drwydded safle, caiff y llys a wnaeth y gorchymyn o dan is-adran (5) wneud gorchymyn yn pennu dyddiad pryd y mae dirymiad y drwydded safle i ddod yn effeithiol sy’n hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y gorchymyn o dan is-adran (5).

(9)

Ond rhaid i’r llys beidio â gwneud gorchymyn o dan is-adran (8) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod hysbysiad digonol o’r cais wedi ei roi i’r perchennog (os yr awdurdod lleol yw’r ymgeisydd) neu i’r awdurdod lleol (os y perchennog yw’r ymgeisydd).