RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Amodau trwyddedau safle

12Apelio yn erbyn amodau trwydded safle

(1)

Pan fo awdurdod lleol yn penderfynu dyroddi trwydded safle yn ddarostyngedig i amodau (heblaw’r amod sy’n ofynnol gan adran 9(5)), rhaid i’r awdurdod lleol hysbysu’r ymgeisydd am y rhesymau dros wneud hynny ac am hawl yr ymgeisydd i apelio o dan is-adran (2).

(2)

Caiff yr ymgeisydd, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad.

(3)

Caiff y tribiwnlys amrywio neu ddileu’r amod os yw wedi ei fodloni (ar ôl rhoi sylw, ymhlith pethau eraill, i unrhyw safonau a all fod wedi eu pennu gan Weinidogion Cymru o dan adran 10) fod yr amod yn amhriodol o feichus.

(4)

Mewn achos pan fo tribiwnlys eiddo preswyl yn amrywio neu’n dileu amod o dan is-adran (3), caiff osod amod newydd ar y drwydded safle hefyd.

(5)

I’r graddau y mae effaith amod y dyroddir trwydded safle yn ddarostyngedig iddo ar gyfer unrhyw dir yn arwain at ei gwneud yn ofynnol i unrhyw waith gael ei wneud ar y tir, nid yw’r amod yn effeithiol—

(a)

yn ystod y cyfnod pan fo gan y person y dyroddwyd y drwydded safle iddo hawl i apelio yn erbyn yr amod, na

(b)

tra bo apêl yn erbyn yr amod yn yr arfaeth.