Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

11Rhagofalon tânLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Rhaid i’r awdurdod lleol, wrth ystyried pa amodau i’w gosod mewn trwydded safle sy’n ymwneud ag unrhyw dir, ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch i ba raddau y mae unrhyw safonau enghreifftiol sy’n ymwneud â rhagofalon tân sydd wedi eu pennu o dan adran 10 yn briodol i’r tir.

(2)Os—

(a)nad oes safonau o’r fath wedi eu pennu, neu

(b)ei bod yn ymddangos i’r awdurdod tân ac achub fod unrhyw safon a bennwyd yn amhriodol i’r tir,

rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r awdurdod tân ac achub ynghylch pa amodau sy’n ymwneud â rhagofalon tân a ddylai gael eu gosod.

(3)Nid yw’r adran hon yn gymwys pan fo Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys i’r tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2A. 11 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(b) (ynghyd ag ergl. 4)