RHAN 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg o’r Ddeddf

(1)

Mae’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth ynghylch safleoedd cartrefi symudol yng Nghymru.

(2)

Yn y Ddeddf hon—

(a)

mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ar gyfer trwyddedu safleoedd rheoleiddiedig etc. ac mewn cysylltiad â hynny,

(b)

mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth i amddiffyn rhag troi allan o safleoedd gwarchodedig,

(c)

mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch telerau cytundebau i osod cartrefi symudol ar safleoedd gwarchodedig,

(d)

mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth y caiff awdurdodau lleol ddarparu safleoedd i gartrefi symudol a gwahardd gosod cartrefi symudol ar dir comin odani, ac

(e)

mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth atodol a chyffredinol.