(a gyflwynir gan adran 58)
ATODLEN 5LL+CDARPARIAETHAU TROSIANNOL A DARFODOL AC ARBEDION
Ceisiadau am drwyddedau safle sydd yn yr arfaethLL+C
1Mae cais am drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran safle rheoleiddiedig sydd wedi ei wneud i awdurdod lleol, ond sydd heb ei benderfynu ganddo, cyn i Ran 2 ddod i rym i’w drin ar ôl i’r Rhan honno ddod i rym fel cais i awdurdod lleol am drwydded safle o dan y Rhan honno o ran y safle rheoleiddiedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)
Parhau trwyddedau safle presennol am y troLL+C
2(1)Nid yw dod â Rhan 2 a pharagraff 1(2) o Atodlen 4 i rym yn effeithio ar barhad gweithredu darpariaethau Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwyddedau safle sy’n parhau mewn grym o dan y paragraff hwn.
(2)Mae trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym pan ddaw Rhan 2 i rym o ran safle rheoleiddiedig yn parhau mewn rym tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol oni bai—
(a)ei bod yn cael ei dirymu yn ystod y cyfnod cychwynnol, neu
(b)bod cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 wedi ei wneud yn ystod y cyfnod cychwynnol.
(3)Os dirymir y drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn ystod y cyfnod cychwynnol mae’n parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei dirymu.
(4)Os gwneir cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 yn ystod y cyfnod cychwynnol, mae’r drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei therfynu (boed yn ystod y cyfnod cychwynnol ynteu ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol).
(5)Yn y paragraff hwn a pharagraff 3, ystyr “y cyfnod cychwynnol” yw’ cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw Rhan 2 i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)
Amser i benderfynu ar drwydded safleLL+C
3Pan wneir cais am drwydded safle o ran safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 cyn diwedd y cyfnod cychwynnol ac ar adeg pan fo trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 mewn grym o ran y safle rheoleiddiedig, mae adran 7(2) yn effeithiol o ran y cais fel pe bai “2 fis” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)
Parhau’r safonau enghreifftiol presennolLL+C
4Mae unrhyw safonau enghreifftiol a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(6) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym yn union cyn i Ran 2 ddod i rym yn effeithiol ar ôl yr amser hwnnw (hyd nes eu disodli) fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 10.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)
Dirymu cyn cychwynLL+C
5Mae’r cyfeiriad yn adran 7(5) at ddirymu trwydded safle o dan adran 18 neu 28 yn cynnwys dirymu trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o dan adran 9 o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)
Troseddau cyn cychwyn i gyfrif at ddibenion penodolLL+C
6Mae’r cyfeiriad yn is-adran (4)(b) o adran 18 at y trosedd o dan is-adran (1) o’r adran honno yn cynnwys trosedd o dan adran 9 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwydded safle o dan y Ddeddf honno o ran yr un tir.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)
Erlyn troseddau cyn cychwynLL+C
7Nid oes dim mewn unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon yn effeithio ar weithredu unrhyw ddeddfiad o ran troseddau a gyflawnwyd cyn i’r ddarpariaeth honno ddod i rym.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)
Hen ddarpariaethau trosiannol ac arbedionLL+C
8Mae i unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed sy’n ymwneud â dod ag unrhyw ddarpariaeth a ailddeddfir yn y Ddeddf hon i rym a all fod yn effeithiol o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir yr un effaith o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir ag a oedd iddi o ran y ddarpariaeth y mae’n ei hailddeddfu.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)
Lleihad dros dro yn y gosb uchaf am drosedd neillog a brofir yn ddiannodLL+C
9Yn achos trosedd a gyflawnwyd cyn [F12 Mai 2022], mae adran 43(3)(a) yn effeithiol fel pe bai “[F2y terfyn cyffredinol yn y llys ynadon (yng Nghymru a Lloegr)]” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn Atod. 5 para. 9 wedi eu hamnewid (28.4.2022) gan The Criminal Justice Act 2003 (Commencement No. 33) and Sentencing Act 2020 (Commencement No. 2) Regulations 2022 (O.S. 2022/500), rhlau. 1(2), 5(3), Atod. Rhn. 3
F2Geiriau yn Atod. 5 para. 9 wedi eu hamnewid (7.2.2023 am 12.00 p.m.) gan The Judicial Review and Courts Act 2022 (Magistrates’ Court Sentencing Powers) Regulations 2023 (O.S. 2023/149), rhlau. 1(2), 28(3)
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)