xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 58)

ATODLEN 5LL+CDARPARIAETHAU TROSIANNOL A DARFODOL AC ARBEDION

Ceisiadau am drwyddedau safle sydd yn yr arfaethLL+C

1Mae cais am drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran safle rheoleiddiedig sydd wedi ei wneud i awdurdod lleol, ond sydd heb ei benderfynu ganddo, cyn i Ran 2 ddod i rym i’w drin ar ôl i’r Rhan honno ddod i rym fel cais i awdurdod lleol am drwydded safle o dan y Rhan honno o ran y safle rheoleiddiedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 5 para. 1 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Parhau trwyddedau safle presennol am y troLL+C

2(1)Nid yw dod â Rhan 2 a pharagraff 1(2) o Atodlen 4 i rym yn effeithio ar barhad gweithredu darpariaethau Deddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwyddedau safle sy’n parhau mewn grym o dan y paragraff hwn.

(2)Mae trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym pan ddaw Rhan 2 i rym o ran safle rheoleiddiedig yn parhau mewn rym tan ddiwedd y cyfnod cychwynnol oni bai—

(a)ei bod yn cael ei dirymu yn ystod y cyfnod cychwynnol, neu

(b)bod cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 wedi ei wneud yn ystod y cyfnod cychwynnol.

(3)Os dirymir y drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn ystod y cyfnod cychwynnol mae’n parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei dirymu.

(4)Os gwneir cais am drwydded safle o ran y safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 yn ystod y cyfnod cychwynnol, mae’r drwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 yn parhau mewn grym hyd nes iddi gael ei therfynu (boed yn ystod y cyfnod cychwynnol ynteu ar ôl diwedd y cyfnod cychwynnol).

(5)Yn y paragraff hwn a pharagraff 3, ystyr “y cyfnod cychwynnol” yw’ cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y daw Rhan 2 i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I2Atod. 5 para. 2 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Amser i benderfynu ar drwydded safleLL+C

3Pan wneir cais am drwydded safle o ran safle rheoleiddiedig o dan Ran 2 cyn diwedd y cyfnod cychwynnol ac ar adeg pan fo trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 mewn grym o ran y safle rheoleiddiedig, mae adran 7(2) yn effeithiol o ran y cais fel pe bai “2 fis” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 5 para. 3 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Parhau’r safonau enghreifftiol presennolLL+C

4Mae unrhyw safonau enghreifftiol a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 5(6) o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 sydd mewn grym yn union cyn i Ran 2 ddod i rym yn effeithiol ar ôl yr amser hwnnw (hyd nes eu disodli) fel pe baent wedi eu gwneud o dan adran 10.

Gwybodaeth Cychwyn

I4Atod. 5 para. 4 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Dirymu cyn cychwynLL+C

5Mae’r cyfeiriad yn adran 7(5) at ddirymu trwydded safle o dan adran 18 neu 28 yn cynnwys dirymu trwydded safle o dan Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o dan adran 9 o’r Ddeddf honno.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 5 para. 5 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Troseddau cyn cychwyn i gyfrif at ddibenion penodolLL+C

6Mae’r cyfeiriad yn is-adran (4)(b) o adran 18 at y trosedd o dan is-adran (1) o’r adran honno yn cynnwys trosedd o dan adran 9 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 o ran trwydded safle o dan y Ddeddf honno o ran yr un tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I6Atod. 5 para. 6 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Erlyn troseddau cyn cychwynLL+C

7Nid oes dim mewn unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon yn effeithio ar weithredu unrhyw ddeddfiad o ran troseddau a gyflawnwyd cyn i’r ddarpariaeth honno ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 5 para. 7 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Hen ddarpariaethau trosiannol ac arbedionLL+C

8Mae i unrhyw ddarpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed sy’n ymwneud â dod ag unrhyw ddarpariaeth a ailddeddfir yn y Ddeddf hon i rym a all fod yn effeithiol o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir yr un effaith o ran y ddarpariaeth fel y’i hailddeddfir ag a oedd iddi o ran y ddarpariaeth y mae’n ei hailddeddfu.

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 5 para. 8 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)

Lleihad dros dro yn y gosb uchaf am drosedd neillog a brofir yn ddiannodLL+C

9Yn achos trosedd a gyflawnwyd cyn i [F1baragraff 24(2) o Atodlen 22 i Ddeddf Dedfrydu 2020] ddod i rym, mae adran 43(3)(a) yn effeithiol fel pe bai “12 mis” wedi ei ddisodli gan “6 mis”.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 5 para. 9 mewn grym ar 5.11.2013, gweler a. 64(1)