ATODLEN 3DARPARIAETHAU PELLACH YNGHYLCH GORCHMYNION SY’N YMWNEUD Â THIR COMIN
6Tir y Goron
1
Pan fwriedir gwneud gorchymyn o’r math a ddisgrifir ym mharagraff 2 o ran tir y mae buddiant ynddo gan y Goron neu Ddugaeth, a bod natur y buddiant yn golygu y byddai gan y person y mae’r buddiant yn perthyn iddo, heblaw am y paragraff hwn, hawl o dan baragraff 3 i gael copi o’r hysbysiad y cyfeirir ato yn y paragraff hwnnw—
a
mae paragraff 3 yn effeithiol fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i’r copi gael ei gyflwyno yn hytrach i’r awdurdod priodol, a
b
nid yw paragraff 4(1) yn gymwys o ran y gorchymyn ond rhaid i’r awdurdod lleol beidio â gwneud y gorchymyn hyd nes ac oni bai ei fod wedi sicrhau cydsyniad ysgrifenedig yr awdurdod priodol.
2
Yn y paragraff hwn ystyr “buddiant gan y Goron neu Ddugaeth” yw buddiant sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron neu hawl Dugaeth Caerhirfryn, neu sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, neu sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth, neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth.
3
Yn y paragraff hwn ystyr “yr awdurdod priodol”—
a
o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron ac sy’n ffurfio rhan o Ystâd y Goron, yw Comisiynwyr Ystâd y Goron, ac, o ran unrhyw dir arall sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl y Goron, yw’r adran o’r llywodraeth sy’n rheoli’r tir hwnnw,
b
o ran tir sy’n perthyn i’w Mawrhydi yn rhinwedd hawl Dugaeth Caerhirfryn, yw Canghellor y Ddugaeth,
c
o ran tir sy’n perthyn i Ddugaeth Cernyw, yw unrhyw berson y mae Dug Cernyw, neu berchennog Dugaeth Cernyw am y tro, yn ei benodi, a
d
o ran tir sy’n perthyn i adran o’r llywodraeth neu sy’n cael ei ddal mewn ymddiriedolaeth i’w Mawrhydi at ddibenion adran o’r llywodraeth, yw’r adran honno.
4
Os bydd unrhyw gwestiwn yn codi o ran pa awdurdod yw’r awdurdod priodol o ran unrhyw dir, mae’r cwestiwn hwnnw i’w gyfeirio at y Trysorlys, sydd biau’r penderfyniad terfynol.