xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
35Yn ddarostyngedig i baragraff 36, mae’r hawl i osod y cartref symudol ar dir sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig yn bodoli hyd nes i’r cytundeb gael ei derfynu o dan baragraff 37, 38, 39 neu 40.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 35 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2Atod. 2 para. 35 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
36(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am gyfnod amhenodol, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.
(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.
(3)Os ceir newid amgylchiadau cyn diwedd cyfnod a bennir gan y paragraff hwn a hwnnw’n caniatáu cyfnod hirach, mae ystyriaeth i gael ei rhoi i’r newid hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 36 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I4Atod. 2 para. 36 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
37Mae gan y meddiannydd hawl i derfynu’r cytundeb drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir i’r perchennog nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I6Atod. 2 para. 37 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
38Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol ar gais gan y perchennog—
(a)wedi ei fodloni bod y meddiannydd wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio â’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a
(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.
Gwybodaeth Cychwyn
I7Atod. 2 para. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I8Atod. 2 para. 38 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
39Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith os bydd y corff barnwrol priodol, ar gais y perchennog—
(a)wedi ei fodloni nad yw’r meddiannydd yn meddiannu’r cartref symudol fel unig neu brif breswylfa’r meddiannydd, a
(b)o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Atod. 2 para. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I10Atod. 2 para. 39 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
40(1)Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb ar unwaith—
(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi penderfynu bod y cartref symudol, o roi sylw i’w gyflwr, yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, a
(b)wedyn, ar gais y perchennog, os bydd y corff barnwrol priodol, o roi sylw i benderfyniad y tribiwnlys ac i unrhyw amgylchiadau eraill, o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.
(2)Mae is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys, ar gais i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (1)(a)—
(a)os bydd y tribiwnlys o’r farn, o roi sylw i gyflwr presennol y cartref symudol, ei fod yn creu effaith andwyol ar amwynder y safle, ond
(b)ei fod o’r farn hefyd y byddai’n rhesymol ymarferol i waith trwsio penodol gael ei wneud ar y cartref symudol a fyddai’n golygu na châi’r cartref symudol yr effaith andwyol honno, ac
(c)os bydd y meddiannydd yn mynegi i’r tribiwnlys fod y meddiannydd yn bwriadu gwneud y gwaith trwsio hwnnw.
(3)Mewn achos o’r fath, caiff y tribiwnlys wneud gorchymyn interim—
(a)sy’n pennu’r gwaith trwsio y mae’n rhaid ei wneud ac o fewn pa amser y mae’n rhaid ei wneud, a
(b)sy’n gohirio’r achos ar y cais am unrhyw gyfnod a bennir yn y gorchymyn interim sy’n rhesymol ym marn y tribiwnlys i alluogi i’r gwaith trwsio gael ei wneud.
(4)Os bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn interim o dan is-baragraff (3), rhaid iddo beidio â gwneud penderfyniad o dan is-baragraff (1)(a) oni bai ei fod wedi ei fodloni bod y cyfnod penodedig wedi dod i ben heb i’r gwaith trwsio gael ei wneud.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Atod. 2 para. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I12Atod. 2 para. 40 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
41(1)Caiff y meddiannydd (“A”) aseinio’r cytundeb—
(a)i berson sy’n aelod o deulu A, neu
(b)i berson arall (“B”) os bodlonir yr amodau yn is-baragraff (2).
(2)Dyma’r amodau—
(a)rhaid i A gael cymeradwyaeth y perchennog, a
(b)rhaid i B—
(i)feddiannu llain barhaol ar safle perthnasol, a
(ii)gael cymeradwyaeth y perchennog i B aseinio ei gytundeb i A neu i berson arall sy’n meddiannu llain barhaol ar safle perthnasol.
(3)Safle perthnasol at ddibenion is-baragraff (2) yw safle Sipsiwn a Theithwyr awdurdod lleol yn ardal yr awdurdod lleol lle y mae’r safle y mae’r llain arno y mae cytundeb A yn ymwneud â hi.
(4)Ni chaiff y meddiannydd na’r perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r meddiannydd neu i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad ag aseinio’r cytundeb o dan y paragraff hwn.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Atod. 2 para. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I14Atod. 2 para. 41 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
42(1)Caiff y meddiannydd gyflwyno cais i’r perchennog i gymeradwyo, at ddibenion paragraff 41, aseiniad i berson a enwir yn y cais (“y meddiannydd arfaethedig”).
(2)Pan fo’r cais yn ymwneud ag aseiniad o dan baragraff 41(1)(a) rhaid i’r cais gynnwys tystiolaeth foddhaol bod y meddiannydd arfaethedig yn aelod o deulu’r meddiannydd.
(3)Pan fo’r perchennog yn cael cais o dan is-baragraff (1), rhaid i’r perchennog, cyn pen 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y daw y cais i law—
(a)cymeradwyo’r aseiniad, oni bai ei bod yn rhesymol i’r perchennog beidio â gwneud hynny, a
(b)cyflwyno hysbysiad o benderfyniad y perchennog (“hysbysiad penderfynu”) i’r meddiannydd.
(4)Os yw person (“P”) yn cael cais o dan is-baragraff (1) ac mae P—
(a)er nad ef yw’r perchennog, ag ystâd neu fuddiant yn y tir, a
(b)yn credu mai person arall yw’r perchennog,
ac nid yw’r person arall wedi cael cais o’r fath, mae ar P ddyletswydd i’r meddiannydd (y gellir ei gorfodi drwy hawliad mewn camwedd am dorri dyletswydd statudol, yn ogystal â thrwy achos am dorri term ymhlyg) i gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y person arall yn cael y cais cyn pen y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad pryd y caiff P ef.
(5)Os gwrthodir y gymeradwyaeth, rhaid i’r hysbysiad penderfynu bennu’r rhesymau dros ei gwrthod.
(6)Pan fo ffi sy’n ddyledus yn gyfreithlon oddi wrth y meddiannydd heb gael ei thalu neu pan fo unrhyw un neu ragor o delerau’r cytundeb wedi cael ei dorri neu heb ei berfformio, caniateir rhoi’r gymeradwyaeth sy’n ofynnol at ddibenion paragraff 41 yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd dalu’r ffi sy’n aros heb ei thalu, cywiro’r toriad neu berfformio’r rhwymedigaeth.
(7)Ac eithrio fel y’i darperir gan is-baragraff (6), ni ellir rhoi’r gymeradwyaeth at ddibenion paragraff 41 yn ddarostyngedig i amod ac mae amod a osodir yn wahanol i’r hyn a ddarperir felly i’w ddiystyru.
(8)Os yw’r perchennog yn methu â chyflwyno’r hysbysiad neu’n gwrthod cymeradwyo’r aseiniad caiff y meddiannydd wneud cais i’r tribiwnlys am orchymyn sy’n datgan bod yr aseiniad wedi ei gymeradwyo at ddibenion paragraff 41 a chaiff y tribiwnlys wneud gorchymyn o’r fath os yw’n barnu bod hynny’n addas.
(9)Os cyfyd cwestiwn ynghylch a gyflwynwyd yr hysbysiad sy’n ofynnol gan is-baragraff (3)(b) cyn pen y cyfnod gofynnol o 28 o ddiwrnodau, y perchennog sydd i ddangos bod yr hysbysiad wedi ei gyflwyno felly.
(10)Os na chymeradwyodd y perchennog yr aseiniad a chyfyd cwestiwn ynghylch a oedd yn rhesymol i’r perchennog beidio â gwneud hynny, y perchennog sydd i ddangos bod hynny’n rhesymol.
(11)O ran cais neu hysbysiad o dan y paragraff hwn—
(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig, a
(b)caniateir ei gyflwyno drwy’r post.
(12)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (13), rhaid i gais gan feddiannydd i’r tribiwnlys o dan is-baragraff (8) gael ei wneud—
(a)cyn pen y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau drannoeth y dyddiad y caiff y meddiannydd yr hysbysiad penderfynu, neu
(b)pan na fo’r meddiannydd yn cael hysbysiad penderfynu, cyn pen y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â’r dyddiad sy’n 29 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y cyflwynodd y meddiannydd y cais o dan is-baragraff (1).
(13)Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (8) gael ei wneud i’r tribiwnlys ar ôl y cyfnod cymwys a bennir yn is-baragraff (12) os yw wedi ei fodloni bod, o dan yr holl amgylchiadau, resymau da dros y methiant i wneud cais cyn diwedd y cyfnod hwnnw a thros unrhyw oedi ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais allan o amser.
Gwybodaeth Cychwyn
I15Atod. 2 para. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I16Atod. 2 para. 42 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
43Os terfynir y cytundeb fel y crybwyllir ym mharagraffau 37, 38, 39 neu 40, mae gan y meddiannydd hawl i adennill oddi ar y perchennog gymaint o unrhyw daliad a wnaed gan y meddiannydd yn unol â’r cytundeb ag sydd i’w briodoli i gyfnod sy’n dechrau ar ôl y terfynu.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Atod. 2 para. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I18Atod. 2 para. 43 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
44(1)Mae gan y perchennog hawl i’w gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod o ran llain arall sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig neu lain sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig arall (“y llain arall”)—
(a)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd a’i bod yn rhesymol gosod y cartref symudol ar y llain arall am y cyfnod hwnnw, neu
(b)os bydd angen i’r perchennog wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys nad oes modd ei wneud ond os caiff y cartref symudol ei symud i’r llain arall am y cyfnod hwnnw, a bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd.
(2)Nid yw llain sy’n ffurfio rhan o safle gwarchodedig arall, at ddibenion is-baragraff (1)(a), yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd, ond os yw’n rhoi mynediad i wasanaethau iechyd ac addysg sy’n ofynnol gan y meddiannydd sydd, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, yn debyg yn fras i’r mynediad a roddwyd gan lain wreiddiol y meddiannydd.
(3)Os yw’r perchennog yn ei gwneud yn ofynnol i feddiannydd osod y cartref symudol ar y llain arall er mwyn i’r perchennog gallu rhoi sylfaen newydd i’r cartref symudol gael ei osod arni neu i wneud gwaith trwsio i’r sylfaen honno, rhaid i’r perchennog, os yw’r meddiannydd yn ei gwneud yn ofynnol i’r perchennog wneud hynny, sicrhau bod y cartref symudol yn cael ei ddychwelyd i’r llain wreiddiol ar ôl i’r gwaith o roi sylfaen newydd neu’r gwaith trwsio gael ei gwblhau.
(4)Rhaid i’r perchennog dalu’r holl gostau a threuliau y mae’r meddiannydd yn mynd iddynt mewn cysylltiad â symud y cartref symudol i’r llain arall ac yn ôl.
(5)Yn y paragraff hwn ac ym mharagraff 46 ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—
(a)gwaith trwsio i’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,
(b)gwaith trwsio i unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir gan y perchennog ar y llain ac i unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill neu amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog yn yr adeiladau allanol hynny,
(c)gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu
(d)gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Atod. 2 para. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I20Atod. 2 para. 44 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
45Mae gan y meddiannydd hawl i fwynhau’r cartref symudol ynghyd â’r llain yn ddidramgwydd yn ystod cyfnod y cytundeb, yn ddarostyngedig i baragraffau 44 a 46.
Gwybodaeth Cychwyn
I21Atod. 2 para. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I22Atod. 2 para. 45 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
46(1)Caiff y perchennog fynd i’r llain heb hysbysiad ymlaen llaw rhwng 9 am a 6 pm—
(a)i roi gohebiaeth ysgrifenedig, gan gynnwys post a hysbysiadau, i’r meddiannydd, a
(b)i ddarllen unrhyw fesurydd gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog.
(2)Caiff y perchennog fynd i’r llain i wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys ar ôl rhoi cymaint o hysbysiad i’r meddiannydd (boed mewn ysgrifen neu fel arall) ag sy’n rhesymol ymarferol o dan yr amgylchiadau.
(3)Oni bai bod y meddiannydd wedi cytuno fel arall, caiff y perchennog fynd i’r llain am reswm heblaw’r un a bennir yn is-baragraff (1) neu (2) neu dim ond os yw’r perchennog wedi rhoi o leiaf 14 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig o ddyddiad ac amser yr ymweliad a’r rheswm drosto.
(4)Nid yw’r hawliau a roddir gan y paragraff hwn yn ymestyn i’r cartref symudol.
Gwybodaeth Cychwyn
I23Atod. 2 para. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I24Atod. 2 para. 46 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
47(1)Dim ond yn unol â’r paragraff hwn y caniateir newid y ffi am y llain, naill ai—
(a)gyda chytundeb y meddiannydd, neu
(b)os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog neu’r meddiannydd, o’r farn ei bod yn rhesymol i’r ffi am y llain gael ei newid a’i fod yn gwneud gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.
(2)Rhaid i’r ffi am y llain gael ei hadolygu’n flynyddol ar ddyddiad yr adolygiad.
(3)O leiaf 28 o ddiwrnodau clir cyn dyddiad yr adolygiad rhaid i’r perchennog gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion y perchennog o ran y ffi newydd am y llain.
(4)Os bydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen.
(5)Os na fydd y meddiannydd yn cytuno i’r ffi newydd arfaethedig am y llain—
(a)caiff y perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,
(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan dribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac
(c)mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o ddyddiad yr adolygiad ymlaen ond rhaid peidio â barnu bod y meddiannydd mewn ôl-ddyledion tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunwyd ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn y tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.
(6)Caniateir i gais o dan is-baragraff (5)(a) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â dyddiad yr adolygiad ond heb fod yn fwy na 3 mis ar ôl dyddiad yr adolygiad.
(7)Mae is-baragraffau (8) i (12) yn gymwys os bydd y perchennog—
(a)heb gyflwyno’r hysbysiad y gofynnir amdani o dan is-baragraff (3) erbyn yr amser yr oedd yn ofynnol ei gyflwyno, ond
(b)ar unrhyw adeg wedyn yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd sy’n nodi cynigion y perchennog o ran ffi newydd am y llain.
(8)Os bydd y meddiannydd (unrhyw bryd) yn cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain, mae’n daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b).
(9)Os na fydd y meddiannydd wedi cytuno i’r ffi arfaethedig am y llain—
(a)caiff y perchennog wneud cais i dribiwnlys am orchymyn o dan is-baragraff (1)(b) sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain,
(b)rhaid i’r meddiannydd barhau i dalu’r ffi gyfredol am y llain i’r perchennog hyd nes y cytunir ar y ffi newydd am y llain gan y meddiannydd neu y gwneir gorchymyn sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain gan dribiwnlys o dan is-baragraff (1)(b), ac
(c)os bydd tribiwnlys yn gwneud gorchymyn o’r fath, mae’r ffi newydd am y llain yn daladwy o’r 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b).
(10)Caniateir i gais o dan is-baragraff (9) gael ei wneud unrhyw bryd ar ôl diwedd y cyfnod o 56 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad o dan is-baragraff (7)(b) ond heb fod yn hwyrach na 4 mis ar ôl y dyddiad y bydd y perchennog yn cyflwyno’r hysbysiad hwnnw.
(11)Caiff tribiwnlys ganiatáu i gais o dan is-baragraff (5)(a) neu (9)(a) gael ei wneud iddo y tu allan i’r terfyn amser a bennir yn is-baragraff (6) (yn achos cais o dan is-baragraff (5)(a)) neu yn is-baragraff (10) (yn achos cais o dan is-baragraff (9)(a)) os bydd wedi ei fodloni, o dan yr holl amgylchiadau, fod rhesymau da dros fethu â gwneud cais o fewn y terfyn amser cymwys a thros unrhyw ohirio ers hynny wrth wneud cais am ganiatâd i wneud y cais y tu allan i’r amser.
(12)Rhaid peidio â thrin y meddiannydd fel pe bai mewn ôl-ddyledion—
(a)pan fo is-baragraff (8) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain, neu
(b)pan fo is-baragraff (9)(b) yn gymwys, tan yr 28ain diwrnod ar ôl y dyddiad y cytunir ar y ffi newydd am y llain neu, yn ôl y digwydd, yr 28ain diwrnod ar ôl dyddiad gorchymyn tribiwnlys sy’n pennu swm y ffi newydd am y llain.
Gwybodaeth Cychwyn
I25Atod. 2 para. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I26Atod. 2 para. 47 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
48(1)Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain rhaid rhoi sylw yn benodol i’r canlynol—
(a)unrhyw symiau a wariwyd gan y perchennog ers dyddiad yr adolygiad diwethaf ar welliannau—
(i)sydd er lles meddianwyr cartrefi symudol ar y safle gwarchodedig,
(ii)a fu’n destun ymgynghori yn unol â pharagraff 52(1)(f) ac (g), a
(iii)nad yw mwyafrif o’r meddianwyr wedi anghytuno â hwy mewn ysgrifen neu, yn achos anghytuno o’r fath, y mae tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi gorchymyn y dylid eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm y ffi newydd am y llain,
(b)unrhyw ostyngiad yn amwynder y safle gwarchodedig ers dyddiad yr adolygiad diwethaf, ac
(c)effaith unrhyw ddeddfiad sydd wedi dod i rym ers dyddiad yr adolygiad diwethaf.
(2)Wrth gyfrifo faint yw mwyafrif o’r meddianwyr at ddibenion is-baragraff (1)(a)(iii) rhaid cymryd mai 1 meddiannydd yn unig sydd gan bob cartref symudol ac os oes mwy nag 1 meddiannydd cartref symudol, cymerir mai’r meddiannydd yw p’un bynnag ohonynt y mae’r meddianwyr yn cytuno arno neu, yn niffyg cytundeb, yr un y mae ei enw’n ymddangos gyntaf ar y cytundeb.
(3)Mewn achos lle nad yw’r ffi am y llain wedi ei hadolygu o’r blaen, mae cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ddyddiad yr adolygiad diwethaf i’w darllen fel cyfeiriadau at y dyddiad y cychwynnodd y cytundeb.
Gwybodaeth Cychwyn
I27Atod. 2 para. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I28Atod. 2 para. 48 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
49Wrth bennu swm y ffi newydd am y llain, ni chaniateir rhoi sylw—
(a)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad ag ehangu’r safle gwarchodedig, neu
(b)i unrhyw gostau yr aed iddynt gan y perchennog mewn cysylltiad â chynnal achos o dan y Rhan hon neu’r cytundeb.
Gwybodaeth Cychwyn
I29Atod. 2 para. 49 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I30Atod. 2 para. 49 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
50(1)Oni bai y byddai hynny’n afresymol, o roi sylw i baragraff 48(1), rhagdybir bod y ffi am y llain i gynyddu neu i ostwng yn ôl canran nad yw’n fwy na chanran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifir drwy gyfeirio’n unig at y canlynol—
(a)y mynegai diweddaraf, a
(b)y mynegai a gyhoeddwyd am y mis a syrthiodd 12 mis cyn y mis y mae’r mynegai diweddaraf yn cyfeirio ato.
(2)Yn is-baragraff (1) ystyr “y mynegai diweddaraf”—
(a)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(3), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad hwnnw, a
(b)mewn achos pan fo’r perchennog yn cyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(7)(b), yw’r mynegai diwethaf a gyhoeddwyd cyn y diwrnod yr oedd yn ofynnol i’r perchennog gyflwyno hysbysiad o dan baragraff 47(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I31Atod. 2 para. 50 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I32Atod. 2 para. 50 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
51(1)Rhaid i’r meddiannydd—
(a)talu’r ffi am y llain i’r perchennog,
(b)talu i’r perchennog yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y cytundeb o ran gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog,
(c)cadw’r cartref symudol mewn cyflwr cadarn,
(d)cadw—
(i)y tu allan i’r cartref symudol, a
(ii)y llain, gan gynnwys pob ffens ac adeilad allanol sy’n perthyn iddi ac i’r cartref symudol, neu a fwynheir gyda hwy,
mewn cyflwr glân a chymen, ac
(e)os bydd y perchennog yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r perchennog o unrhyw gostau neu dreuliau y bydd y meddiannydd yn gofyn am ad-daliad yn eu cylch.
(2)Rhaid i’r perchennog beidio â gwneud unrhyw beth na pheri i unrhyw beth gael ei wneud a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni rhwymedigaethau’r meddiannydd o dan is-baragraff (1)(c) a (d).
Gwybodaeth Cychwyn
I33Atod. 2 para. 51 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I34Atod. 2 para. 51 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
52(1)Rhaid i’r perchennog—
(a)os bydd y meddiannydd yn gofyn, ac os bydd y meddiannydd yn talu tâl nad yw’n fwy na £30, roi manylion ysgrifenedig cywir am y canlynol—
(i)maint y llain a’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, a
(ii)lleoliad y llain a’r sylfaen o fewn y safle gwarchodedig,
a rhaid i’r manylion gynnwys mesuriadau rhwng pwyntiau gosod y gellir eu hadnabod ar y safle gwarchodedig a’r llain a’r sylfaen,
(b)os bydd y meddiannydd yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol (yn ddi-dâl) i ategu ac i esbonio—
(i)unrhyw ffi newydd am y llain,
(ii)unrhyw daliadau am wasanaethau nwy, trydan, dŵr carthffosiaeth neu wasanaethau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb, a
(iii)unrhyw daliadau, costau neu dreuliau eraill sy’n daladwy gan y meddiannydd i’r perchennog o dan y cytundeb,
(c)bod yn gyfrifol am drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni ac am gynnal unrhyw wasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog i’r llain neu i’r cartref symudol,
(d)bod yn gyfrifol am atgyweirio amwynderau eraill a ddarperir gan y perchennog ar y llain gan gynnwys unrhyw adeiladau allanol a chyfleusterau a ddarperir.
(e)cadw’r rhannau hynny o’r safle gwarchodedig, gan gynnwys ffyrdd mynediad, ffensys terfyn y safle a choed, nad ydynt yn gyfrifoldeb i feddiannydd unrhyw gartref symudol a osodwyd ar y safle gwarchodedig, mewn cyflwr glân a chymen,
(f)ymgynghori â’r meddiannydd ynghylch gwelliannau i’r safle gwarchodedig yn gyffredinol, ac yn arbennig ynghylch y rhai y mae’r perchennog yn dymuno iddynt gael eu cymryd i ystyriaeth wrth bennu swm unrhyw ffi newydd am y llain, ac
(g)ymgynghori â chymdeithas trigolion gymwys (os oes un) ynghylch pob mater sy’n ymwneud â gweithredu a rheoli’r safle gwarchodedig, gwelliannau iddo ac a allai effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
(2)At ddibenion is-baragraff (1)(f), ystyr “ymgynghori” â’r meddiannydd yw—
(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd am y gwelliannau arfaethedig sydd—
(i)yn disgrifio’r gwelliannau arfaethedig a sut y byddant o les i’r meddiannydd yn y tymor hir a’r tymor byr,
(ii)yn manylu ar sut y gellid effeithio ar y ffi am y llain y tro nesaf y caiff ei hadolygu, a
(iii)yn datgan pryd a ble y caiff y meddiannydd gyflwyno sylwadau am y gwelliannau arfaethedig, a
(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y meddiannydd ynghylch y gwelliannau arfaethedig, yn unol â pharagraff (a)(iii), cyn ymgymryd â hwy.
(3)At ddibenion is-baragraff (1)(g), ystyr “ymgynghori” â chymdeithas trigolion gymwys yw—
(a)rhoi o leiaf 28 o ddiwrnodau clir o hysbysiad ysgrifenedig i’r gymdeithas neu’r meddianwyr am y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1)(g) sydd—
(i)yn disgrifio’r materion a sut y gallent effeithio ar y meddianwyr naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol yn y tymor hir a’r tymor byr, a
(ii)yn datgan pryd a ble y caiff y gymdeithas neu’r meddianwyr gyflwyno sylwadau am y materion, a
(b)cymryd i ystyriaeth unrhyw sylwadau a gyflwynir gan y gymdeithas neu’r meddianwyr, yn unol â pharagraff (a)(ii), cyn bwrw ymlaen â’r materion.
Gwybodaeth Cychwyn
I35Atod. 2 para. 52 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I36Atod. 2 para. 52 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
53(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd ac unrhyw gymdeithas trigolion gymwys, drwy hysbysiad, am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd neu gan gymdeithas trigolion gymwys.
(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio â’r is-baragraff hwnnw.
(3)Os bydd y perchennog yn unol â’r cytundeb yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) i gymdeithas trigolion gymwys, rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.
(4)Pan fo—
(a)y meddiannydd neu gymdeithas trigolion gymwys yn cael hysbysiad o’r fath, ond
(b)nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),
mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd neu (yn ôl y digwydd) y gymdeithas o ran yr hysbysiad.
(5)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) yn gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 54(1) yn gymwys iddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I37Atod. 2 para. 53 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I38Atod. 2 para. 53 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)
54(1)Os bydd y perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.
(2)Pan fo—
(a)y meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond
(b)nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1), mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.
Gwybodaeth Cychwyn
I39Atod. 2 para. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I40Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)