xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CTELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

RHAN 1LL+CTELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 4LL+CCYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU PARHAOL AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR

Enw a chyfeiriad y perchennogLL+C

54(1)Os bydd y perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(2)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond

(b)nid yw’r cais hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1), mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 54 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 54 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)