xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CTELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

RHAN 1LL+CTELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 3LL+CCYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU TRAMWY AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR AWDURDODAU LLEOL

Enw a chyfeiriad y perchennogLL+C

33(1)Rhaid i’r perchennog roi gwybod i’r meddiannydd drwy hysbysiad am y cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog gan y meddiannydd.

(2)Os bydd y perchennog yn methu cydymffurfio ag is-baragraff (1), yna mae unrhyw swm sy’n ddyledus fel arall gan y meddiannydd i’r perchennog o ran y ffi am y llain i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog gydymffurfio ag is-baragraff (1).

(3)Pan fo’r perchennog, yn unol â’r cytundeb, yn rhoi unrhyw hysbysiad ysgrifenedig i’r meddiannydd rhaid i’r hysbysiad gynnwys enw a chyfeiriad y perchennog.

(4)Pan fo—

(a)y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r fath, ond

(b)nid yw’r hysbysiad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (3),

mae’r hysbysiad i’w drin fel pe na bai wedi ei roi hyd nes y bydd y perchennog yn rhoi’r wybodaeth i’r meddiannydd o ran yr hysbysiad.

(5)Nid oes dim yn is-baragraffau (3) a (4) sy’n gymwys i unrhyw hysbysiad sy’n cynnwys hawliad y mae paragraff 34(1) yn gymwys iddo.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 33 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)