ATODLEN 2LL+CTELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

RHAN 1LL+CTELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 2LL+CCYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU AC EITHRIO’R RHAI HYNNY SYDD AR SAFLEOEDD AWDURDODAU LLEOL I SIPSIWN A THEITHWYR

Parhad y cytundebLL+C

3(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am gyfnod amhenodol, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

(3)Os ceir newid amgylchiadau cyn diwedd cyfnod a bennir gan y paragraff hwn a hwnnw’n caniatáu cyfnod hirach, mae ystyriaeth i gael ei rhoi i’r newid hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)