xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CTELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

RHAN 1LL+CTELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 3LL+CCYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU TRAMWY AR SAFLEOEDD SIPSIWN A THEITHWYR AWDURDODAU LLEOL

TerfynuLL+C

29Mae gan y perchennog hawl i derfynu’r cytundeb cyn i’r cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb ddod i ben—

(a)heb fod yn ofynnol iddo ddangos unrhyw reswm, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig nid llai na 4 wythnos cyn y dyddiad y mae i fod i ddod yn effeithiol, neu

(b)ar unwaith, pan fo—

(i)y meddiannydd wedi torri un neu ragor o delerau’r cytundeb, ac os nad yw, ar ôl i hysbysiad gael ei gyflwyno i gywiro’r toriad, wedi cydymffurfio a’r hysbysiad o fewn amser rhesymol, a

(ii)y perchennog o’r farn ei bod yn rhesymol terfynu’r cytundeb.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 29 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 29 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)