Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Parhad y cytundebLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

27(1)Os nad yw ystâd neu fuddiant y perchennog yn ddigon i alluogi’r perchennog i roi’r hawl am y cyfnod gosodedig a nodir yn y cytundeb, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad pan fydd ystâd neu fuddiant y perchennog yn terfynu.

(2)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu y daw i ben ar ddiwedd cyfnod penodedig, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio i ben.

(3)Os oes caniatâd cynllunio i ddefnyddio’r safle gwarchodedig fel safle i gartrefi symudol wedi ei roi mewn termau sy’n golygu ei bod yn ofynnol i’r perchennog gyfyngu ar gyfnod aros cartrefi symudol ar y safle, nid yw’r cyfnod pryd y bydd yr hawl yn bodoli yn ymestyn y tu hwnt i’r cyfnod hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 27 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 27 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)