Enw a chyfeiriad y perchennogLL+C
25(1)Os bydd y perchennog yn gwneud unrhyw hawliad i’r meddiannydd dalu’r ffi am y llain, neu o ran gwasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill, rhaid i’r hawliad gynnwys—
(a)enw a chyfeiriad y perchennog, a
(b)os nad yw’r cyfeiriad hwnnw yng Nghymru nac yn Lloegr, cyfeiriad yng Nghymru neu Loegr lle y caniateir i hysbysiadau (gan gynnwys hysbysiadau achosion) gael eu cyflwyno i’r perchennog.
(2)Yn ddarostyngedig i is-baragraff (3)—
(a)pan fo’r meddiannydd yn cael hawliad o’r fath, ond
(b)nid yw’r hawliad hwnnw’n cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei chynnwys ynddo yn rhinwedd is-baragraff (1),
mae’r swm a hawlir i’w drin at bob diben fel pe na bai’n ddyledus gan y meddiannydd i’r perchennog ar unrhyw adeg cyn i’r perchennog roi’r wybodaeth honno i’r meddiannydd o ran yr hawliad.
(3)Nid yw’r swm a hawlir i’w drin fel pe bai’n ddyledus o ran unrhyw amser pan fo penodiad mewn grym, yn rhinwedd gorchymyn gan unrhyw lys neu dribiwnlys, ar gyfer derbynnydd neu reolwr y mae ei swyddogaethau’n cynnwys derbyn oddi wrth y meddiannydd y ffi am y llain, taliadau am wasanaethau a ddarparwyd neu daliadau eraill.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2Atod. 2 para. 25 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)