Rhwymedigaethau eraill y perchennogLL+C
23Rhaid i’r ddogfen y cyfeirir ati ym mharagraff 17(4) a (9)—
(a)bod ar unrhyw ffurf a ragnodir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau,
(b)pennu canran unrhyw gynnydd neu ostyngiad yn y mynegai prisiau defnyddwyr a gyfrifwyd yn unol â pharagraff 20,
(c)esbonio effaith paragraff 17,
(d)pennu’r materion y mae’r swm a gynigir ar gyfer y ffi newydd am y llain i’w priodoli iddynt,
(e)cyfeirio at rwymedigaethau’r meddiannydd ym mharagraff 21(1)(c) i (e) ac at rwymedigaethau’r perchennog ym mharagraff 22(1)(c) a (d), ac
(f)cyfeirio at rwymedigaethau’r perchennog ym mharagraff 22(1)(e) ac (f) (fel y maent wedi eu glosio gan baragraff 22(2) a (3)).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2Atod. 2 para. 23 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)