ATODLEN 2TELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

RHAN 1TELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 2CYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU AC EITHRIO’R RHAI HYNNY SYDD AR SAFLEOEDD AWDURDODAU LLEOL I SIPSIWN A THEITHWYR

21Rhwymedigaethau’r meddiannydd a rhwymedigaethau cyfatebol y perchennog

1

Rhaid i’r meddiannydd—

a

talu’r ffi am y llain i’r perchennog,

b

talu i’r perchennog yr holl symiau sy’n ddyledus o dan y cytundeb o ran gwasanaethau nwy, trydan, dŵr, carthffosiaeth neu wasanaethau eraill a ddarperir gan y perchennog,

c

cadw’r cartref symudol mewn cyflwr cadarn,

d

cadw—

i

y tu allan i’r cartref symudol, a

ii

y llain, gan gynnwys pob ffens ac adeilad allanol sy’n perthyn iddi ac i’r cartref symudol, neu a fwynheir gyda hwy,

mewn cyflwr glân a chymen, ac

e

os bydd y perchennog yn gofyn, rhoi tystiolaeth ddogfennol i’r perchennog o unrhyw gostau neu dreuliau y bydd y meddiannydd yn gofyn am ad-daliad yn eu cylch.

2

Rhaid i’r perchennog beidio â gwneud unrhyw beth na pheri i unrhyw beth gael ei wneud—

a

a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni’r rhwymedigaeth o dan is-baragraff (1)(c) neu a allai atal y meddiannydd rhag gwneud gwelliannau mewnol i’r cartref symudol nac ymyrryd â gallu’r meddiannydd i wneud hynny, na

b

a allai effeithio’n andwyol ar allu’r meddiannydd i gyflawni’r rhwymedigaethau o dan is-baragraff (1)(d) neu a allai atal y meddiannydd rhag gwneud gwelliannau allanol i’r cartref symudol nac ymyrryd â gallu’r meddiannydd i wneud hynny.

3

Nid yw is-baragraff (2) yn awdurdodi’r meddiannydd i wneud gwaith ar y cartref symudol a waharddwyd gan delerau’r cytundeb neu gan neu o dan unrhyw ddeddfiad.

4

Os yw telerau’r cytundeb yn caniatáu i waith ar y cartref symudol gael ei wneud â chaniatâd y perchennog yn unig, rhaid peidio â dal y caniatâd hwnnw yn ôl yn afresymol.