ATODLEN 2TELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL

RHAN 1TELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF

PENNOD 2CYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU AC EITHRIO’R RHAI HYNNY SYDD AR SAFLEOEDD AWDURDODAU LLEOL I SIPSIWN A THEITHWYR

14Ail-leoli cartref symudol

1

Mae gan y perchennog hawl i’w gwneud yn ofynnol bod hawl y meddiannydd i osod y cartref symudol yn arferadwy am unrhyw gyfnod o ran llain arall sy’n ffurfio rhan o’r safle gwarchodedig (“y llain arall”)—

a

os bydd tribiwnlys, ar gais y perchennog, wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd a’i bod yn rhesymol gosod y cartref symudol ar y llain arall am y cyfnod hwnnw, neu

b

os bydd angen i’r perchennog wneud gwaith trwsio hanfodol neu waith brys nad oes modd ei wneud ond os caiff y cartref symudol ei symud i’r llain arall am y cyfnod hwnnw, a naill ai—

i

bod tribiwnlys, ar gais gan y perchennog, wedi ei fodloni ynglŷn â’r angen hwnnw ac wedi ei fodloni bod y llain arall yn debyg yn fras i lain wreiddiol y meddiannydd, neu

ii

os yw’r brys ynglŷn â’r angen yn golygu ei bod yn anymarferol gwneud cais cyn i’r cartref symudol gael ei ail-leoli.

2

Mewn achos pan fo is-baragraff (ii) o baragraff (b) o is-baragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r perchennog wneud cais ar unwaith i dribiwnlys ac os nad yw tribiwnlys wedi ei fodloni fel y crybwyllir yn is-baragraff (i) o’r paragraff hwnnw rhaid i’r perchennog sicrhau ar unwaith fod y cartref symudol yn dychwelyd i’r llain wreiddiol.

3

Os bydd y perchennog yn ei gwneud yn ofynnol i’r meddiannydd osod y cartref symudol ar y llain arall er mwyn i’r perchennog amnewid neu drwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni, rhaid i’r perchennog sicrhau bod y cartref symudol yn dychwelyd i’r llain wreiddiol pan gwblheir y gwaith amnewid neu’r gwaith trwsio, os bydd y meddiannydd yn gofyn i’r perchennog wneud hynny neu os bydd tribiwnlys ar gais y meddiannydd yn gorchymyn i’r perchennog wneud hynny.

4

Rhaid i’r perchennog dalu’r holl gostau a threuliau yr eir iddynt gan y meddiannydd mewn cysylltiad â symud y cartref symudol yn ôl ac ymlaen i’r llain arall.

5

Yn y paragraff hwn a pharagraff 16 ystyr “gwaith trwsio hanfodol neu waith brys” yw—

a

trwsio’r sylfaen y gosodwyd y cartref symudol arni,

b

gwaith neu waith trwsio y mae ei angen i gydymffurfio ag unrhyw ofynion cyfreithiol perthnasol, neu

c

gwaith neu waith trwsio mewn cysylltiad ag adfer ar ôl llifogydd, tirlithriad neu drychineb naturiol arall.