Rhoi cartref symudol yn anrhegLL+C
13(1)Os nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i roi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i aelod o deulu’r meddiannydd (y “meddiannydd arfaethedig”) heb gymeradwyaeth y perchennog—
(a)os bydd y meddiannydd yn cyflwyno hysbysiad i’r perchennog (“hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref”) fod y meddiannydd yn bwriadu rhoi’r cartref symudol i’r meddiannydd arfaethedig, a
(b)os bodlonir yr amod cyntaf neu’r ail amod.
(2)Yr amod cyntaf yw nad yw’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y perchennog yr hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref (“y cyfnod o 21 o ddiwrnodau”), yn cael hysbysiad gan y perchennog fod y perchennog wedi gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”).
(3)Yr ail amod yw hyn—
(a)o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau—
(i)bod y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod, a
(ii)bod y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog, a
(b)bod y tribiwnlys yn gwrthod y cais.
(4)Os bydd y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ond nad yw’r meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog o fewn y cyfnod hwnnw—
(a)mae’r cais i’w drin fel pe bai heb ei wneud, a
(b)gan hynny mae’r amod cyntaf i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni.
(5)Rhaid i hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref gynnwys—
(a)y dystiolaeth berthnasol o dan baragraff 12(2), a
(b)unrhyw wybodaeth arall a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(6)O ran hysbysiad o’r bwriad i roi cartref neu hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod—
(a)rhaid iddo fod mewn ysgrifen, a
(b)caniateir ei gyflwyno drwy’r post.
(7)Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y caniateir gwneud cais am orchymyn gwrthod; a rhaid i hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod bennu ar ba sail neu seiliau y gwneir y cais.
(8)Ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).
(9)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd a’r meddiannydd arfaethedig neu’r person y rhoddir y cartref iddo gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)
I2Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 7.1.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/11, ergl. 2(b)
I3Atod. 2 para. 13 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)