ATODLEN 2TELERAU CYTUNDEBAU CARTREFI SYMUDOL
RHAN 1TELERAU A YMHLYGIR GAN Y DDEDDF
PENNOD 2CYTUNDEBAU SY’N YMWNEUD Â LLEINIAU AC EITHRIO’R RHAI HYNNY SYDD AR SAFLEOEDD AWDURDODAU LLEOL I SIPSIWN A THEITHWYR
Rhoi cartref symudol yn anrheg
13
(1)
Os nad yw’r cytundeb yn gytundeb newydd, mae gan y meddiannydd hawl i roi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i aelod o deulu’r meddiannydd (y “meddiannydd arfaethedig”) heb gymeradwyaeth y perchennog—
(a)
os bydd y meddiannydd yn cyflwyno hysbysiad i’r perchennog (“hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref”) fod y meddiannydd yn bwriadu rhoi’r cartref symudol i’r meddiannydd arfaethedig, a
(b)
os bodlonir yr amod cyntaf neu’r ail amod.
(2)
Yr amod cyntaf yw nad yw’r meddiannydd, o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd y perchennog yr hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref (“y cyfnod o 21 o ddiwrnodau”), yn cael hysbysiad gan y perchennog fod y perchennog wedi gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn yn atal y meddiannydd rhag rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, i’r meddiannydd arfaethedig (“gorchymyn gwrthod”).
(3)
Yr ail amod yw hyn—
(a)
o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau—
(i)
bod y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod, a
(ii)
bod y meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog, a
(b)
bod y tribiwnlys yn gwrthod y cais.
(4)
Os bydd y perchennog yn gwneud cais i dribiwnlys am orchymyn gwrthod o fewn y cyfnod o 21 o ddiwrnodau ond nad yw’r meddiannydd yn cael hysbysiad o’r cais gan y perchennog o fewn y cyfnod hwnnw—
(a)
mae’r cais i’w drin fel pe bai heb ei wneud, a
(b)
gan hynny mae’r amod cyntaf i’w drin fel pe bai wedi ei fodloni.
(5)
Rhaid i hysbysiad o’r bwriad i roi’r cartref gynnwys—
(a)
y dystiolaeth berthnasol o dan baragraff 12(2), a
(b)
unrhyw wybodaeth arall a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(6)
O ran hysbysiad o’r bwriad i roi cartref neu hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod—
(a)
rhaid iddo fod mewn ysgrifen, a
(b)
caniateir ei gyflwyno drwy’r post.
(7)
Dim ond ar un neu ragor o’r seiliau a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru y caniateir gwneud cais am orchymyn gwrthod; a rhaid i hysbysiad o gais am orchymyn gwrthod bennu ar ba sail neu seiliau y gwneir y cais.
(8)
Ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).
(9)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd a’r meddiannydd arfaethedig neu’r person y rhoddir y cartref iddo gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, fel y crybwyllir yn is-baragraff (1).