Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Rhoi cartref symudol yn anrhegLL+C
This section has no associated Explanatory Notes

12(1)Os yw cytundeb yn gytundeb newydd, ar yr amod bod y meddiannydd wedi rhoi’r dystiolaeth berthnasol i’r perchennog, mae gan y meddiannydd hawl i roi’r cartref symudol, ac i aseinio’r cytundeb, i aelod o deulu’r meddiannydd (y “meddiannydd newydd”) heb gymeradwyaeth y perchennog.

(2)Dyma’r dystiolaeth berthnasol—

(a)tystiolaeth, neu dystiolaeth o ddisgrifiad, a ragnodir mewn rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru fod y person y mae’r meddiannydd yn bwriadu rhoi’r cartref symudol iddo, ac aseinio’r cytundeb iddo, yn aelod o deulu’r meddiannydd, neu

(b)unrhyw dystiolaeth foddhaol arall fod y person o dan sylw yn aelod o deulu’r meddiannydd.

(3)Rhaid i’r meddiannydd newydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r perchennog ei fod wedi cael y cartref symudol a bod y cytundeb wedi ei aseinio iddo.

(4)Ni chaiff y perchennog ei gwneud yn ofynnol i unrhyw daliad gael ei wneud (boed i’r perchennog neu fel arall) mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, a grybwyllir yn is-baragraff (1).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi gofynion ynglŷn â gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r perchennog, y meddiannydd neu’r meddiannydd newydd gydymffurfio â hwy mewn cysylltiad â rhoi’r cartref symudol, ac aseinio’r cytundeb, a grybwyllir yn is-baragraff (1).

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 7.1.2014 at ddibenion penodedig gan O.S. 2014/11, ergl. 2(b)

I3Atod. 2 para. 12 mewn grym ar 1.10.2014 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(d) (ynghyd ag ergl. 4)