xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

(a gyflwynir gan adran 2)

ATODLEN 1LL+CSAFLEOEDD NAD YDYNT YN SAFLEOEDD RHEOLEIDDIEDIG

Eu defnyddio o fewn cwrtil tŷ anneddLL+C

1Nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio mewn modd sy’n gysylltiedig â mwynhau tŷ annedd y mae’r tir wedi ei leoli yn ei gwrtil.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Eu defnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol am 1 neu 2 o nosweithiauLL+C

2Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol sy’n dod â’r cartref symudol i’r tir am gyfnod nad yw’n cynnwys mwy na 2 noson—

(a)os nad oes cartref symudol arall wedi ei osod yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo ar y tir hwnnw neu unrhyw dir cyfagos o dan yr un berchnogaeth, a

(b)os nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu’r tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28 yn ystod y cyfnod o 12 mis yn diweddu â’r diwrnod y deuir â’r cartref symudol i’r tir.

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I4Atod. 1 para. 2 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Defnyddio daliadau o 20,000 m² neu fwy o dan amgylchiadau penodolLL+C

3(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig ar unrhyw ddiwrnod os yw’n ffurfio, ynghyd ag unrhyw dir cyfagos sydd o dan yr un berchnogaeth ac nad adeiladwyd arno, nid llai nag 20,000 o fetrau sgwâr ac o fewn y cyfnod o 12 mis cyn y diwrnod hwnnw—

(a)nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28, a

(b)nad oedd mwy na 3 chartref symudol wedi eu gosod unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddynt ar unrhyw un adeg.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y paragraff hwn i fod yn effeithiol mewn unrhyw ardal a bennir yn y gorchymyn fel pe bai—

(a)y cyfeiriad yn is-baragraff (1) at 20,000 o fetrau sgwâr wedi ei ddisodli gan gyfeiriad at unrhyw arwynebedd lai a bennir yn y gorchymyn, neu

(b)yr amod a bennir ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwnnw wedi ei ddisodli gan amod bod y defnyddio o dan sylw yn syrthio rhwng unrhyw ddyddiadau mewn unrhyw flwyddyn a bennir yn y gorchymyn.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion gwahanol o dan is-baragraff (2) o ran ardaloedd gwahanol.

(4)Mae gorchymyn o dan is-baragraff (2) i ddod i rym ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn, sef dyddiad nad yw’n llai na 3 mis ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad ynglŷn â gorchymyn o dan is-baragraff (2) mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at y gorchymyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I6Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Safleoedd a berchennir ac a oruchwylir gan sefydliadau esemptLL+C

4Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw sefydliad yn berchen arno sydd â thystysgrif o esemptiad a roddir o dan baragraff 13 (“sefydliad esempt”) a’i fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion hamdden o dan oruchwyliaeth y sefydliad esempt.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 1 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I8Atod. 1 para. 4 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Safleoedd a gymeradwyir gan sefydliadau esemptLL+C

5(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os oes tystysgrif mewn grym ar ei gyfer a ddyroddwyd o dan y paragraff hwn gan sefydliad esempt ac nad oes mwy na 5 o gartrefi symudol wedi eu gosod ar y pryd er mwyn i bobl fyw ynddynt ar y tir y mae’r dystysgrif yn cyfeirio ato.

(2)At ddibenion y paragraff hwn caiff sefydliad esempt ddyroddi ar gyfer unrhyw dir dystysgrif sy’n datgan bod y tir wedi ei gymeradwyo gan y sefydliad esempt i’w ddefnyddio gan ei aelodau at ddibenion hamdden.

(3)Rhaid i’r dystysgrif gael ei dyroddi at berchennog y tir y mae’n cyfeirio ato, a rhaid i’r sefydliad esempt anfon manylion at Weinidogion Cymru am bob tystysgrif a ddyroddir gan y sefydliad esempt o dan y paragraff hwn.

(4)Rhaid i dystysgrif a ddyroddir gan sefydliad esempt o dan y paragraff hwn bennu’r dyddiad y daw i rym ac am ba gyfnod y mae i barhau mewn grym, sef cyfnod nad yw’n fwy na blwyddyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I10Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Cyfarfodydd a drefnir gan sefydliadau esemptLL+C

6Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’r safle’n cael ei ddefnyddio o dan oruchwyliaeth sefydliad esempt a hynny yn unol â threfniadau a wnaed gan y sefydliad hwnnw ar gyfer cyfarfod i’w aelodau nad yw’n para mwy na 5 niwrnod.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 1 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I12Atod. 1 para. 6 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Gweithwyr amaethyddiaeth a choedwigaethLL+C

7Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n dir amaethyddol sy’n cael ei ddefnyddio i roi llety yn ystod tymor penodol i berson neu bersonau a gyflogir mewn gweithredoedd ffermio ar dir sydd o dan yr un berchnogaeth.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 1 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I14Atod. 1 para. 7 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

8Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n cael ei ddefnyddio i roi llety yn ystod tymor penodol i berson a gyflogir ar dir o dan yr un berchnogaeth, sef tir sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion coedwigaeth (gan gynnwys fforestu).

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 1 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I16Atod. 1 para. 8 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Safleoedd adeiladu a pheiriannuLL+C

9Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n ffurfio rhan o dir, neu os yw’n gyfagos i dir, y mae gweithredoedd adeiladu neu beiriannu yn cael eu gwneud arno (sef gweithredoedd y mae caniatâd cynllunio wedi ei roi ar eu cyfer, os oes ei angen) ac sy’n cael ei ddefnyddio i roi llety i berson neu bersonau a gyflogir mewn cysylltiad â’r gweithredoedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 1 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I18Atod. 1 para. 9 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Siewmyn teithiolLL+C

10(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw [F1safle nad yw awdurdod lleol yn berchen arno yn] safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan siewmon teithiol sy’n aelod o sefydliad i siewmyn teithiol sydd â thystysgrif a roddwyd o dan y paragraff hwn ac sydd, ar y pryd, yn teithio at ddibenion busnes neu sydd wedi gosod annedd gaeaf ar y tir gyda chyfarpar am ryw gyfnod sy’n syrthio rhwng dechrau mis Hydref mewn unrhyw flwyddyn a diwedd mis Mawrth yn y flwyddyn wedyn.

(2)At ddibenion y paragraff hwn caiff Gweinidogion Cymru roi tystysgrif i unrhyw sefydliad a gydnabyddir ganddynt fel un sy’n cyfyngu ei haelodaeth i siewmyn teithiol bona fide; a chaniateir i dystysgrif gael ei thynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru unrhyw bryd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 1 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I20Atod. 1 para. 10 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Safleoedd a berchennir gan awdurdod lleolLL+C

11Nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’r awdurdod lleol yn berchen arno.

Addasiadau (ddim yn newid testun)

C1Atod. 1 para. 11 modified (5.11.2013) by 1995 c. 25, Atod. 9 para. 4A(b) (as inserted by Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013 (anaw 6), a. 64(1), Atod. 4 para. 8(3) (ynghyd ag Atod. 5 para. 7) (this amendment is to be treated as not having effect until 1.10.2014 by virtue of O.S. 2014/11, ergl. 3(2)))

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 1 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I22Atod. 1 para. 11 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Esemptiad dros dro ar ôl marwolaeth perchennog, neu newid arall yn y perchennogLL+C

12(1)Os bydd deiliad trwydded safle ar gyfer safle rheoleiddiedig yn marw, neu os ceir newid o ran pwy yw perchennog safle y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer am unrhyw reswm arall, nid yw’r safle’n safle rheoleiddiedig yn ystod y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â diwrnod marwolaeth neu newid y perchennog (y “cyfnod esempt cychwynnol”).

(2)Ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod esempt cychwynnol, neu unrhyw gyfnod wedyn a bennir o dan yr is-baragraff hwn, os bydd cynrychiolydd personol y perchennog marw neu’r perchennog newydd yn gwneud cais i’r awdurdod lleol y mae’r safle o fewn ei ardal, caiff yr awdurdod lleol drwy hysbysiad a ddyroddir i’r ymgeisydd ddarparu nad yw’r safle i fod yn safle rheoleiddiedig yn ystod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3)Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu gwrthod cais o dan is-baragraff (2) rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r ymgeisydd am y penderfyniad a’r rhesymau drosto.

Gwybodaeth Cychwyn

I23Atod. 1 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I24Atod. 1 para. 12 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Ardystio sefydliadau esemptLL+C

13(1)At ddibenion paragraffau 4, 5 a 6 caiff Gweinidogion Cymru roi tystysgrif esemptiad i unrhyw sefydliad y maent yn fodlon bod ei amcanion yn cynnwys hybu neu hyrwyddo gweithgareddau hamdden.

(2)Caniateir i dystysgrif a roddir o dan y paragraff hwn gael ei thynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru unrhyw bryd.

Gwybodaeth Cychwyn

I25Atod. 1 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I26Atod. 1 para. 13 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)

Pŵer i dynnu eithriadau yn ôlLL+C

14(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais awdurdod lleol, drwy orchymyn ddarparu bod yr Atodlen hon, o ran unrhyw dir a leolir yn ei ardal a bennir yn y gorchymyn, i fod yn effeithiol fel pe bai paragraffau 2 i 10, neu unrhyw un neu ragor o’r paragraffau hyn a bennir yn y gorchymyn, wedi eu hepgor o’r Atodlen hon.

(2)O ran gorchymyn o dan y paragraff hwn—

(a)daw i rym ar y dyddiad a bennir ynddo, a

(b)ni chaniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan orchymyn dilynol ond ar gais yr awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais.

(3)Heb fod yn llai na 3 mis cyn i orchymyn o dan y paragraff hwn ddod i rym, rhaid i’r awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais beri bod hysbysiad sy’n nodi effaith y gorchymyn a’r dyddiad y daw i rym gael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir y mae’r gorchymyn yn cyfeirio ato wedi ei leoli ynddo.

(4)Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos gorchymyn ei unig effaith yw dirymu gorchymyn blaenorol yn gyfan gwbl neu’n rhannol.

Gwybodaeth Cychwyn

I27Atod. 1 para. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I28Atod. 1 para. 14 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)