Deddf Cartrefi Symudol (Cymru) 2013

Safleoedd a gymeradwyir gan sefydliadau esemptLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

5(1)Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os oes tystysgrif mewn grym ar ei gyfer a ddyroddwyd o dan y paragraff hwn gan sefydliad esempt ac nad oes mwy na 5 o gartrefi symudol wedi eu gosod ar y pryd er mwyn i bobl fyw ynddynt ar y tir y mae’r dystysgrif yn cyfeirio ato.

(2)At ddibenion y paragraff hwn caiff sefydliad esempt ddyroddi ar gyfer unrhyw dir dystysgrif sy’n datgan bod y tir wedi ei gymeradwyo gan y sefydliad esempt i’w ddefnyddio gan ei aelodau at ddibenion hamdden.

(3)Rhaid i’r dystysgrif gael ei dyroddi at berchennog y tir y mae’n cyfeirio ato, a rhaid i’r sefydliad esempt anfon manylion at Weinidogion Cymru am bob tystysgrif a ddyroddir gan y sefydliad esempt o dan y paragraff hwn.

(4)Rhaid i dystysgrif a ddyroddir gan sefydliad esempt o dan y paragraff hwn bennu’r dyddiad y daw i rym ac am ba gyfnod y mae i barhau mewn grym, sef cyfnod nad yw’n fwy na blwyddyn.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 64(2)

I2Atod. 1 para. 5 mewn grym ar 1.10.2014 gan O.S. 2014/11, ergl. 3(1)(a) (ynghyd ag ergl. 4)