ATODLEN 1SAFLEOEDD NAD YDYNT YN SAFLEOEDD RHEOLEIDDIEDIG

(a gyflwynir gan adran 2)

Eu defnyddio o fewn cwrtil tŷ annedd

1

Nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio mewn modd sy’n gysylltiedig â mwynhau tŷ annedd y mae’r tir wedi ei leoli yn ei gwrtil.

Eu defnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol am 1 neu 2 o nosweithiau

2

Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan berson sy’n teithio â chartref symudol sy’n dod â’r cartref symudol i’r tir am gyfnod nad yw’n cynnwys mwy na 2 noson—

(a)

os nad oes cartref symudol arall wedi ei osod yn ystod y cyfnod hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo ar y tir hwnnw neu unrhyw dir cyfagos o dan yr un berchnogaeth, a

(b)

os nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu’r tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28 yn ystod y cyfnod o 12 mis yn diweddu â’r diwrnod y deuir â’r cartref symudol i’r tir.

Defnyddio daliadau o 20,000 m² neu fwy o dan amgylchiadau penodol

3

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig ar unrhyw ddiwrnod os yw’n ffurfio, ynghyd ag unrhyw dir cyfagos sydd o dan yr un berchnogaeth ac nad adeiladwyd arno, nid llai nag 20,000 o fetrau sgwâr ac o fewn y cyfnod o 12 mis cyn y diwrnod hwnnw—

(a)

nad oedd nifer y diwrnodau pryd y gosodid cartref symudol unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddo yn fwy nag 28, a

(b)

nad oedd mwy na 3 chartref symudol wedi eu gosod unrhyw le ar y tir hwnnw neu ar y tir cyfagos hwnnw er mwyn i bobl fyw ynddynt ar unrhyw un adeg.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddarparu bod y paragraff hwn i fod yn effeithiol mewn unrhyw ardal a bennir yn y gorchymyn fel pe bai—

(a)

y cyfeiriad yn is-baragraff (1) at 20,000 o fetrau sgwâr wedi ei ddisodli gan gyfeiriad at unrhyw arwynebedd lai a bennir yn y gorchymyn, neu

(b)

yr amod a bennir ym mharagraff (a) o’r is-baragraff hwnnw wedi ei ddisodli gan amod bod y defnyddio o dan sylw yn syrthio rhwng unrhyw ddyddiadau mewn unrhyw flwyddyn a bennir yn y gorchymyn.

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru wneud gorchmynion gwahanol o dan is-baragraff (2) o ran ardaloedd gwahanol.

(4)

Mae gorchymyn o dan is-baragraff (2) i ddod i rym ar y dyddiad a bennir yn y gorchymyn, sef dyddiad nad yw’n llai na 3 mis ar ôl i’r gorchymyn gael ei wneud.

(5)

Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad ynglŷn â gorchymyn o dan is-baragraff (2) mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal yr effeithir arni gan y gorchymyn ac mewn unrhyw ffyrdd eraill y mae’n ymddangos iddynt eu bod yn briodol er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at y gorchymyn.

Safleoedd a berchennir ac a oruchwylir gan sefydliadau esempt

4

Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw sefydliad yn berchen arno sydd â thystysgrif o esemptiad a roddir o dan baragraff 13 (“sefydliad esempt”) a’i fod yn cael ei ddefnyddio at ddibenion hamdden o dan oruchwyliaeth y sefydliad esempt.

Safleoedd a gymeradwyir gan sefydliadau esempt

5

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os oes tystysgrif mewn grym ar ei gyfer a ddyroddwyd o dan y paragraff hwn gan sefydliad esempt ac nad oes mwy na 5 o gartrefi symudol wedi eu gosod ar y pryd er mwyn i bobl fyw ynddynt ar y tir y mae’r dystysgrif yn cyfeirio ato.

(2)

At ddibenion y paragraff hwn caiff sefydliad esempt ddyroddi ar gyfer unrhyw dir dystysgrif sy’n datgan bod y tir wedi ei gymeradwyo gan y sefydliad esempt i’w ddefnyddio gan ei aelodau at ddibenion hamdden.

(3)

Rhaid i’r dystysgrif gael ei dyroddi at berchennog y tir y mae’n cyfeirio ato, a rhaid i’r sefydliad esempt anfon manylion at Weinidogion Cymru am bob tystysgrif a ddyroddir gan y sefydliad esempt o dan y paragraff hwn.

(4)

Rhaid i dystysgrif a ddyroddir gan sefydliad esempt o dan y paragraff hwn bennu’r dyddiad y daw i rym ac am ba gyfnod y mae i barhau mewn grym, sef cyfnod nad yw’n fwy na blwyddyn.

Cyfarfodydd a drefnir gan sefydliadau esempt

6

Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’r safle’n cael ei ddefnyddio o dan oruchwyliaeth sefydliad esempt a hynny yn unol â threfniadau a wnaed gan y sefydliad hwnnw ar gyfer cyfarfod i’w aelodau nad yw’n para mwy na 5 niwrnod.

Gweithwyr amaethyddiaeth a choedwigaeth

7

Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n dir amaethyddol sy’n cael ei ddefnyddio i roi llety yn ystod tymor penodol i berson neu bersonau a gyflogir mewn gweithredoedd ffermio ar dir sydd o dan yr un berchnogaeth.

8

Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n cael ei ddefnyddio i roi llety yn ystod tymor penodol i berson a gyflogir ar dir o dan yr un berchnogaeth, sef tir sy’n cael ei ddefnyddio at ddibenion coedwigaeth (gan gynnwys fforestu).

Safleoedd adeiladu a pheiriannu

9

Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’n ffurfio rhan o dir, neu os yw’n gyfagos i dir, y mae gweithredoedd adeiladu neu beiriannu yn cael eu gwneud arno (sef gweithredoedd y mae caniatâd cynllunio wedi ei roi ar eu cyfer, os oes ei angen) ac sy’n cael ei ddefnyddio i roi llety i berson neu bersonau a gyflogir mewn cysylltiad â’r gweithredoedd.

Siewmyn teithiol

10

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff 14, nid yw F1safle nad yw awdurdod lleol yn berchen arno yn safle rheoleiddiedig yn rhinwedd cael ei ddefnyddio gan siewmon teithiol sy’n aelod o sefydliad i siewmyn teithiol sydd â thystysgrif a roddwyd o dan y paragraff hwn ac sydd, ar y pryd, yn teithio at ddibenion busnes neu sydd wedi gosod annedd gaeaf ar y tir gyda chyfarpar am ryw gyfnod sy’n syrthio rhwng dechrau mis Hydref mewn unrhyw flwyddyn a diwedd mis Mawrth yn y flwyddyn wedyn.

(2)

At ddibenion y paragraff hwn caiff Gweinidogion Cymru roi tystysgrif i unrhyw sefydliad a gydnabyddir ganddynt fel un sy’n cyfyngu ei haelodaeth i siewmyn teithiol bona fide; a chaniateir i dystysgrif gael ei thynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru unrhyw bryd.

Safleoedd a berchennir gan awdurdod lleol

11

Nid yw safle’n safle rheoleiddiedig os yw’r awdurdod lleol yn berchen arno.

Esemptiad dros dro ar ôl marwolaeth perchennog, neu newid arall yn y perchennog

12

(1)

Os bydd deiliad trwydded safle ar gyfer safle rheoleiddiedig yn marw, neu os ceir newid o ran pwy yw perchennog safle y mae trwydded safle mewn grym ar ei gyfer am unrhyw reswm arall, nid yw’r safle’n safle rheoleiddiedig yn ystod y cyfnod o 3 mis sy’n dechrau â diwrnod marwolaeth neu newid y perchennog (y “cyfnod esempt cychwynnol”).

(2)

Ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod esempt cychwynnol, neu unrhyw gyfnod wedyn a bennir o dan yr is-baragraff hwn, os bydd cynrychiolydd personol y perchennog marw neu’r perchennog newydd yn gwneud cais i’r awdurdod lleol y mae’r safle o fewn ei ardal, caiff yr awdurdod lleol drwy hysbysiad a ddyroddir i’r ymgeisydd ddarparu nad yw’r safle i fod yn safle rheoleiddiedig yn ystod y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad.

(3)

Os bydd awdurdod lleol yn penderfynu gwrthod cais o dan is-baragraff (2) rhaid i’r awdurdod lleol roi hysbysiad i’r ymgeisydd am y penderfyniad a’r rhesymau drosto.

Ardystio sefydliadau esempt

13

(1)

At ddibenion paragraffau 4, 5 a 6 caiff Gweinidogion Cymru roi tystysgrif esemptiad i unrhyw sefydliad y maent yn fodlon bod ei amcanion yn cynnwys hybu neu hyrwyddo gweithgareddau hamdden.

(2)

Caniateir i dystysgrif a roddir o dan y paragraff hwn gael ei thynnu’n ôl gan Weinidogion Cymru unrhyw bryd.

Pŵer i dynnu eithriadau yn ôl

14

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais awdurdod lleol, drwy orchymyn ddarparu bod yr Atodlen hon, o ran unrhyw dir a leolir yn ei ardal a bennir yn y gorchymyn, i fod yn effeithiol fel pe bai paragraffau 2 i 10, neu unrhyw un neu ragor o’r paragraffau hyn a bennir yn y gorchymyn, wedi eu hepgor o’r Atodlen hon.

(2)

O ran gorchymyn o dan y paragraff hwn—

(a)

daw i rym ar y dyddiad a bennir ynddo, a

(b)

ni chaniateir ei amrywio neu ei ddirymu gan orchymyn dilynol ond ar gais yr awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais.

(3)

Heb fod yn llai na 3 mis cyn i orchymyn o dan y paragraff hwn ddod i rym, rhaid i’r awdurdod lleol y cafodd ei wneud ar ei gais beri bod hysbysiad sy’n nodi effaith y gorchymyn a’r dyddiad y daw i rym gael ei gyhoeddi mewn papur newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir y mae’r gorchymyn yn cyfeirio ato wedi ei leoli ynddo.

(4)

Nid yw is-baragraff (3) yn gymwys yn achos gorchymyn ei unig effaith yw dirymu gorchymyn blaenorol yn gyfan gwbl neu’n rhannol.