RHAN 2TRWYDDEDU SAFLEOEDD CARTREFI SYMUDOL ETC.

Rheolwyr interim

30Penodi rheolwr interim

1

Os bydd unrhyw un neu ragor o’r amodau a bennir yn is-adran (2) wedi eu bodloni o ran safle rheoleiddiedig, caiff awdurdod lleol y trwyddedwyd y safle ganddo benodi rheolwr interim i’r safle.

2

Dyma’r amodau y cyfeirir atynt yn is-adran (1)—

a

bod yr awdurdod lleol o’r farn bod deiliad y drwydded safle yn methu neu wedi methu, naill ai mewn modd difrifol neu fwy nag unwaith, â chydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o amodau’r drwydded safle,

b

bod yr awdurdod lleol o’r farn nad yw’r safle’n cael ei reoli gan berson sy’n berson addas a phriodol i reoli’r safle, ac

c

bod yr awdurdod lleol o’r farn nad oes neb yn rheoli’r safle.

3

Rhaid i awdurdod lleol, os gofynnir iddo gan gymdeithas sy’n gymdeithas trigolion gymwys ar gyfer safle, ystyried a ddylai arfer ei bŵer o dan yr adran hon.

4

Nid yw is-adran (3) yn effeithio ar ddisgresiwn awdurdod lleol i arfer ei bŵer o dan yr adran hon ar ei symbyliad ei hun.

5

Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad i benodi rheolwr interim, o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwneir y penderfyniad, apelio at dribiwnlys eiddo preswyl yn erbyn y penderfyniad.

6

Daw penodiad rheolwr interim i ben ar y cynharaf o’r canlynol—

a

pan ddaw’r drwydded safle i ben,

b

pan ddirymir y drwydded safle, ac

c

dyddiad a bennir yn y penodiad.

7

Os bydd person yn peidio â bod yn rheolwr interim cyn i’r penodiad ddod i ben, caiff yr awdurdod benodi rheolwr interim newydd yn lle’r person hwnnw.

31Telerau penodi a phwerau rheolwr interim

1

Rhaid i benodiad rheolwr interim gael ei wneud ar delerau ac amodau (gan gynnwys o ran tâl a threuliau) a bennir yn y penodiad, neu y penderfynir arnynt yn unol â’r penodiad.

2

Mae gan y rheolwr interim—

a

unrhyw bŵer a bennir yn y penodiad, a

b

unrhyw bŵer arall o ran rheoli’r safle y mae ar y rheolwr interim ei angen at y dibenion a bennir yn y penodiad (gan gynnwys y pŵer i wneud cytundebau ac i gymryd camau ar ran deiliad y drwydded safle).

3

Caiff yr awdurdod lleol roi cyfarwyddiadau cyffredinol neu benodol i’r rheolwr interim.

4

Caiff yr awdurdod lleol dynnu unrhyw gyfarwyddiadau a roddir yn ôl neu eu diwygio.

5

Caniateir i dâl a threuliau rheolwr interim gael eu tynnu gan y rheolwr interim o unrhyw incwm y mae gan ddeiliad y drwydded hawl i’w gael o ran y safle, ond os nad yw’r incwm hwnnw’n ddigonol rhaid i unrhyw falans gael ei dalu gan yr awdurdod lleol.

6

Caniateir i unrhyw symiau a delir gan yr awdurdod lleol o dan is-adran (5) gael eu hadennill gan yr awdurdod oddi ar ddeiliad y drwydded safle.