xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cydsynio

8Cynrychiolwyr penodedig

(1)Caiff person benodi un neu ragor o bersonau i gynrychioli’r person ar ôl ei farwolaeth mewn perthynas â chydsyniad datganedig at ddibenion adran 3.

(2)Caiff penodiad fod yn gyffredinol neu’n gyfyngedig i gydsyniad mewn perthynas ag unrhyw un neu ragor o weithgareddau trawsblannu a bennir yn y penodiad.

(3)Caniateir i benodiad gael ei wneud ar lafar neu’n ysgrifenedig.

(4)Dim ond os caiff ei wneud ym mhresenoldeb o leiaf ddau dyst sy’n bresennol yr un pryd y mae penodiad llafar yn ddilys.

(5)Dim ond os yw un o’r canlynol yn wir y mae penodiad ysgrifenedig yn ddilys—

(a)ei fod wedi ei lofnodi gan y person sy’n ei wneud ym mhresenoldeb o leiaf un tyst sy’n ardystio’r llofnod,

(b)ei fod wedi ei lofnodi yn ôl cyfarwyddyd y person sy’n ei wneud, yn ei bresenoldeb ac ym mhresenoldeb o leiaf un tyst sy’n ardystio’r llofnod, neu

(c)ei fod wedi ei gynnwys yn ewyllys y person sy’n ei wneud, a honno’n ewyllys sydd wedi ei gwneud yn unol â gofynion adran 9 o Ddeddf Ewyllysiau 1837.

(6)Pan fo person yn penodi dau berson neu ragor mewn perthynas â’r un gweithgaredd trawsblannu, maent i’w hystyried yn rhai sydd wedi eu penodi i weithredu ar y cyd ac yn unigol onid yw’r penodiad yn darparu eu bod wedi eu penodi i weithredu ar y cyd.

(7)Caniateir i benodiad gael ei ddirymu ar unrhyw bryd.

(8)Mae is-adrannau (3) i (5) yn gymwys i ddirymu penodiad yn yr un modd ag y maent yn gymwys i wneud penodiad o’r fath.

(9)Caiff person a benodir ildio’r penodiad ar unrhyw bryd.

(10)Ni chaiff person weithredu o dan benodiad—

(a)os nad yw’n oedolyn, neu

(b)os yw’r person o ddisgrifiad a ragnodir drwy reoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.

(11)Pan fo person wedi penodi person neu bersonau o dan adran 4 o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â gweithgaredd a wneir at ddibenion trawsblannu, mae’r person i’w drin hefyd fel un sydd wedi gwneud penodiad o dan yr adran hon mewn perthynas â’r gweithgaredd.

(12)At ddiben adrannau 4(3), 5(4), 6(3) a 7 os nad yw’n rhesymol ymarferol cyfathrebu â pherson a benodir o dan yr adran hon o fewn yr amser sydd ar gael os yw’r cydsyniad i gael ei roi ar waith, mae’r person i gael ei drin fel pe na bai’n gallu rhoi cydsyniad i weithgaredd o dan y penodiad.