xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae’r adran hon yn darparu ar gyfer cydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir.
(2)Yn y Ddeddf hon, ystyr “deunydd perthnasol a eithrir” yw deunydd perthnasol o fath a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.
(3)Enghreifftiau o’r mathau o ddeunydd perthnasol y caniateir ei bennu’n ddeunydd perthnasol a eithrir yw meinweoedd cyfansawdd a mathau eraill o ddeunydd yr ystyrir bod eu tynnu a’u defnyddio yn ddull newydd.
(4)Yn achos gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir mae cydsyniad datganedig yn ofynnol, ac mae rhaid i’r cydsyniad hwnnw fod yn benodol i dynnu deunydd perthnasol a eithrir.
(5)I oedolyn, ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 4, ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd yw’r ystyr a nodir yn ail golofn y tabl—
Yr achos | Ystyr cydsyniad datganedig |
---|---|
1. Mae’r oedolyn yn fyw. | Cydsyniad yr oedolyn. |
2. Mae’r oedolyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan yr oedolyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw. | Cydsyniad yr oedolyn. |
3. Mae’r oedolyn wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys, yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir. |
4. Mae’r person wedi marw, nid yw achos 2 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn yn union cyn iddo farw. |
5. Mae’r oedolyn wedi marw ac nid yw achosion 2, 3 na 4 yn gymwys mewn perthynas â’r oedolyn. | Cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r oedolyn yn union cyn iddo farw. |
(6)I blentyn, ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 5, ystyr cydsyniad datganedig mewn perthynas â gweithgaredd yw’r ystyr a nodir yn ail golofn y tabl—
Yr achos | Ystyr cydsyniad datganedig |
---|---|
1. Mae’r plentyn yn fyw ac nid yw achos 2 yn gymwys. | Cydsyniad y plentyn. |
2. Mae’r plentyn yn fyw, nid oes unrhyw benderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym, ac nid yw’r plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsynio, neu, mae’n gymwys i ymdrin â’r mater ond yn methu â gwneud hynny. | Cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn. |
3. Mae’r plentyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw. | Cydsyniad y plentyn. |
4. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys, yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir. |
5. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys ac yr oedd yr oedolyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad. | Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno. |
6. Mae’r plentyn wedi marw ac nid yw achosion 3, 4 na 5 yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn. | Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno. |
(7)Yn yr adran hon, nid yw penderfyniad neu benodiad a wneir gan blentyn ond yn ddilys os oedd y plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad wrth ei wneud.
(8)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at benodiad person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsyniad yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)
I2A. 7 mewn grym ar 12.9.2015 at ddibenion penodedig gan O.S. 2015/1679, ergl. 2(a)
I3A. 7 mewn grym ar 1.12.2015 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2015/1679, ergl. 3(b)