xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Cydsynio

6Cydsynio: plant

(1)Mae’r adran hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cydsyniad at ddibenion adran 3 mewn perthynas â gweithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â chorff, neu ddeunydd perthnasol o gorff, person sy’n blentyn neu sydd wedi marw’n blentyn.

(2)Yn achos person sy’n blentyn neu sydd wedi marw’n blentyn mae angen cydsyniad datganedig.

(3)Ar gyfer pob achos a grybwyllir yng ngholofn gyntaf Tabl 3 mae ystyr cydsyniad datganedig wedi ei ddarparu yn ail golofn y tabl—

TABL 3

Yr achosYstyr cydsyniad datganedig
1. Mae’r plentyn yn fyw ac nid yw achos 2 yn gymwys.Cydsyniad y plentyn.
2. Mae’r plentyn yn fyw, nid oes unrhyw benderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym, a naill ai nid yw’r plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsynio neu mae’n gymwys i ymdrin â’r mater ond yn methu â gwneud hynny.Cydsyniad person sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.
3. Mae’r plentyn wedi marw ac yr oedd penderfyniad gan y plentyn i gydsynio, neu i beidio â chydsynio, i’r gweithgaredd mewn grym yn union cyn iddo farw.Cydsyniad y plentyn.
4. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys, yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r weithgaredd ac mae rhywun yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad a roddir gan y person neu’r personau a benodir.
5. Mae’r plentyn wedi marw, nid yw achos 3 yn gymwys ac yr oedd y plentyn wedi penodi person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsynio mewn perthynas â’r gweithgaredd, ond nid oes neb yn gallu rhoi cydsyniad o dan y penodiad.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.
6. Mae’r plentyn wedi marw ac nid yw achosion 3, 4 na 5 yn gymwys mewn perthynas â’r plentyn.Cydsyniad person a oedd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn yn union cyn i’r plentyn farw, neu pan nad oes unrhyw berson o’r fath yn bodoli, cydsyniad person y mae perthynas gymhwysol rhyngddo a’r plentyn yr adeg honno.

(4)Yn yr adran hon, nid yw penderfyniad neu benodiad a wneir gan blentyn ond yn ddilys os oedd y plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad wrth ei wneud.

(5)Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at benodiad person neu bersonau i ymdrin â’r mater o gydsyniad yn gyfeiriad at benodiad o dan adran 8.

(6)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gydsyniad i weithgaredd trawsblannu sy’n ymwneud â thynnu deunydd perthnasol a eithrir (gweler adran 7 am ddarpariaeth mewn perthynas â hyn).