Gweithgareddau trawsblannu cyfreithlon
3Awdurdodi gweithgareddau trawsblannu
(1)
Mae gweithgareddau trawsblannu yn gyfreithlon os cânt eu gwneud yng Nghymru—
(a)
â chydsyniad datganedig pan fo’n ofynnol ei gael (gweler adrannau 4 i 7), neu
(b)
fel arall lle yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi (gweler adrannau 4 ac 9).
(2)
Mae’r canlynol yn weithgareddau trawsblannu at ddiben y Ddeddf hon—
(a)
storio corff person ymadawedig i’w ddefnyddio at ddiben trawsblannu;
(b)
tynnu o gorff person ymadawedig, i’w ddefnyddio at y diben hwnnw, unrhyw ddeunydd perthnasol y mae’r corff wedi ei gyfansoddi ohono neu y mae’n ei gynnwys;
(c)
storio i’w ddefnyddio at y diben hwnnw unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol;
(d)
defnyddio at y diben hwnnw unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol.
(3)
Mae gweithgaredd trawsblannu o’r math a grybwyllir yn is-adran (2)(c) neu (d) yn gyfreithlon (heb yr angen am gydsyniad) pan y’i gwneir yng Nghymru—
(a)
os yw’r deunydd perthnasol wedi ei fewnforio i Gymru o’r tu allan i Gymru, a
(b)
os tynnwyd y deunydd o gorff person y tu allan i Gymru.