Cyffredinol
21Cychwyn
(1)
Daw’r Ddeddf hon i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
(2)
Ni chaiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (1) ddarparu bod unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon i ddod i rym cyn diwedd y cyfnod o ddwy flynedd gan ddechrau ar y diwrnod y mae’r Ddeddf yn cael Cydsyniad Brenhinol.
(3)
Ni chaniateir i orchymyn a wneir o dan is-adran (1) gychwyn y ddarpariaeth a wnaed yn adran 14(3)(b) hyd oni fydd adran 43(5A) o Ddeddf Meinweoedd Dynol 2004 wedi dod i rym.
(4)
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i—
(a)
adran 1,
(b)
adran 2,
(c)
yr adran hon, a
(d)
adran 22;
sydd i ddod i rym ar y diwrnod y mae’r Ddeddf hon yn cael Cydsyniad Brenhinol.
(5)
Caiff gorchymyn a wneir o dan is-adran (1) bennu diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol.