Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

Valid from 01/12/2015

19DehongliLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Yn y Ddeddf hon—

  • mae i “cyfrifoldeb rhiant” yr un ystyr â “parental responsibility” yn Neddf Plant 1989;

  • mae i “deunydd perthnasol” (“relevant material”) yr ystyr a roddir yn adran 18; ac mae i “deunydd perthnasol a eithrir” (“excluded relevant material”) yr ystyr a roddir iddo yn adran 7;

  • mae i “gweithgareddau trawsblannu” (“transplantation activities”) yr ystyr a roddir yn adran 3;

  • ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sydd wedi cyrraedd 18 mlwydd oed;

  • ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 mlwydd oed.

(2)At ddibenion adrannau 6, 7 ac 8, mae plentyn yn gymwys i ymdrin â’r mater o gydsyniad os yw’n ymddangos i berson rhesymol bod gan y plentyn ddigon o ddealltwriaeth i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth.

(3)Mae’r canlynol yn berthnasoedd cymhwysol at ddiben y Ddeddf hon—

(a)priod, partner sifil neu bartner;

(b)rhiant neu blentyn;

(c)brawd neu chwaer;

(d)tad-cu/taid neu fam-gu/nain , neu ŵyr neu wyres;

(e)plentyn i frawd neu chwaer;

(f)llys-dad neu lys-fam;

(g)hanner-brawd neu hanner-chwaer;

(h)cyfaill ers amser maith.

(4)At ddibenion y Ddeddf hon, mae person yn bartner i unigolyn arall os yw’r ddau ohonynt (p’un a ydynt o rywiau gwahanol neu o’r un rhyw) yn byw fel partneriaid mewn perthynas deuluol barhaus.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio is-adran (3) drwy orchymyn.

(6)Yn y Ddeddf hon—

(a)mae cyfeiriadau at ddeunydd o gorff person byw yn cyfeirio at ddeunydd o gorff person sy’n fyw adeg y gwahanu,

(b)mae cyfeiriadau at ddeunydd o gorff person ymadawedig yn cyfeirio at ddeunydd o gorff person nad oedd yn fyw adeg y gwahanu, ac

(c)mae cyfeiriadau at gydsyniad datganedig yn cynnwys cydsyniad a roddwyd cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym.

(7)Yn y Ddeddf hon, mae cyfeiriadau at drawsblannu yn cyfeirio at drawsblannu i gorff dynol ac yn cynnwys trallwyso.

(8)At ddibenion y Ddeddf hon, nid yw deunydd i’w ystyried yn ddeunydd o gorff dynol os yw wedi ei greu y tu allan i’r corff dynol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 21(1)