Cyffredinol

18Deunydd perthnasol

(1)

Yn y Ddeddf hon, ystyr “deunydd perthnasol” yw deunydd, nad yw’n gametau, ac sydd wedi ei gyfansoddi o gelloedd dynol neu’n eu cynnwys.

(2)

Yn y Ddeddf hon, nid yw cyfeiriadau at ddeunydd perthnasol o gorff dynol yn cynnwys—

(a)

embryonau y tu allan i’r corff dynol, neu

(b)

gwallt ac ewinedd o gorff person byw.

(3)

Yn yr adran hon, mae i “embryo” a “gametau” yr un ystyr ag “embryo” a “gametes” yn rhinwedd adran 1(1), (4) a (6) o Ddeddf Ffrwythloni ac Embryoleg Dynol 1990 yn narpariaethau eraill y Ddeddf honno (ar wahân i adran 4A).