Cyffredinol
14Crwneriaid
(1)
Nid oes dim yn y Ddeddf hon sy’n gymwys i unrhyw beth a wneir at ddibenion swyddogaethau crwner neu o dan awdurdod crwner.
(2)
Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo person (“P”) yn gwybod, neu pan fo ganddo reswm dros gredu, bod angen neu y gall fod angen—
(a)
corff person ymadawedig, neu
(b)
deunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff person ymadawedig,
at ddibenion swyddogaethau crwner.
(3)
Mae’n ofynnol cael cydsyniad y crwner cyn y caiff P weithredu yn ôl awdurdod o dan—
(a)
adran 3 (awdurdodi gweithgareddau trawsblannu), neu
(b)
adran 13 (preserfio deunydd at ei drawsblannu),
mewn perthynas â’r corff neu’r deunydd.