Cyffredinol

13Preserfio deunydd at ei drawsblannu

(1)

Pan fo rhan o gorff person ymadawedig sy’n gorwedd mewn ysbyty, cartref nyrsio neu sefydliad arall yng Nghymru yn addas neu o bosibl yn addas i’w defnyddio mewn trawsblaniad, mae’n gyfreithlon i’r person sy’n llywio neu’n rheoli’r sefydliad—

(a)

cymryd camau at breserfio’r rhan i’w defnyddio mewn trawsblaniad, a

(b)

cadw’r corff at y diben hwnnw.

(2)

Nid yw awdurdod o dan is-adran (1)(a) yn ymestyn ond at—

(a)

cymryd y lleiafswm o gamau angenrheidiol at y diben a grybwyllir yn y ddarpariaeth honno, a

(b)

y defnydd o’r dull lleiaf mewnwthiol.

(3)

Mae awdurdod o dan is-adran (1) yn peidio â bod yn gymwys pan fydd wedi ei chadarnhau nad yw cydsyniad datganedig sy’n ei gwneud hi’n gyfreithlon i dynnu’r rhan i’w thrawsblannu wedi ei roi, ac na fydd yn cael ei roi ac nad yw’n cael ei ystyried bod cydsyniad wedi ei roi.

(4)

Mae awdurdod o dan is-adran (1) yn ymestyn i unrhyw berson a awdurdodir i weithredu o dan yr awdurdod gan—

(a)

y person y rhoddir yr awdurdod iddo gan yr is-adran honno, neu

(b)

person a awdurdodir o dan yr is-adran honno i weithredu o dan yr awdurdod hwnnw.

(5)

Mae gweithred a wneir ag awdurdod o dan is-adran (1) i’w thrin fel un nad yw’n weithgaredd y mae adran 3 yn gymwys iddo.