Deddf Trawsblannu Dynol (Cymru) 2013

10Gwahardd gweithgareddau heb gydsyniad

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n gwneud, heb gydsyniad, weithgaredd trawsblannu yng Nghymru.

(2)Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1)—

(a)os yw’r person yn credu yn rhesymol—

(i)ei fod yn gwneud y gweithgaredd â chydsyniad, neu

(ii)nad yw’r hyn y mae’n ei wneud yn weithgaredd trawsblannu;

(b)os yw adran 3(3) (deunydd sydd wedi’i fewnforio) yn gymwys;

(c)os yw adran 13(1) (preserfio deunydd at ei drawsblannu) yn gymwys.

(3)Mae person yn cyflawni trosedd os yw, yng Nghymru—

(a)yn ymhonni’n dwyllodrus wrth berson y mae’n gwybod neu’n credu ei fod yn mynd i wneud gweithgaredd trawsblannu neu y gall ei wneud—

(i)bod cydsyniad i wneud y gweithgaredd, neu

(ii)nad yw’r gweithgaredd yn weithgaredd trawsblannu, a

(b)yn gwybod bod yr ymhoniad yn anwir neu ddim yn credu ei fod yn wir.

(4)Mae person sy’n euog o drosedd o dan yr adran hon yn agored—

(a)o’i gollfarnu’n ddiannod i ddirwy heb fod yn fwy na’r uchafswm statudol;

(b)o’i gollfarnu ar dditiad—

(i)i garchariad am gyfnod heb fod yn hwy na 3 blynedd, neu

(ii)i ddirwy, neu

(iii)i’r ddau.

(5)Yn yr adran hon ystyr “cydsyniad” yw’r cydsyniad sy’n ofynnol yn rhinwedd adran 3.