Cymhwysiad Tiriogaethol
6.Mae deddfwriaeth Cymru yn gymwys mewn perthynas â chydsyniad pan gyflawnir gweithgaredd trawsblannu yng Nghymru. Mae Deddf 2004 yn gymwys i bob achos sy’n ymwneud â chydsyniad at ddibenion trawsblannu pan gyflawnir y gweithgaredd yn Lloegr neu yng Ngogledd Iwerddon.
7.Mae’r Ddeddf yn nodi mewn un ddogfen y prif ddarpariaethau sy’n ymwneud â chydsyniad ar gyfer gweithgareddau trawsblannu yng Nghymru. O ganlyniad, mae’r Ddeddf yn ailddatgan rhai adrannau o Ddeddf 2004 sy’n ymwneud yn uniongyrchol â chydsyniad at ddibenion trawsblannu. Fodd bynnag, er mwyn cynnal trefn drawsffiniol effeithiol yn nhermau gweithredu rhaglen trawsblannu organau ledled y DU, mae’n anochel y bydd cyswllt â Deddf 2004. Nid yw rhai darpariaethau eraill yn Neddf 2004 nad ydynt yn ymwneud yn uniongyrchol â chydsyniad ond sy’n gymwys i drawsblannu, wedi eu hailddatgan ond maent yn parhau i fod yn gymwys yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â’r Awdurdod Meinweoedd Dynol ac adrannau 8 (cyfyngu ar weithgareddau mewn perthynas â deunydd wedi ei roi), 33 (cyfyngu ar drawsblaniadau sy’n ymwneud â rhoddwyr byw) a 34 (gwybodaeth am lawdriniaethau trawsblannu) yn Neddf 2004.