xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Gweithgareddau trawsblannu cyfreithlon

3Awdurdodi gweithgareddau trawsblannu

(1)Mae gweithgareddau trawsblannu yn gyfreithlon os cânt eu gwneud yng Nghymru—

(a)â chydsyniad datganedig pan fo’n ofynnol ei gael (gweler adrannau 4 i 7), neu

(b)fel arall lle yr ystyrir bod cydsyniad wedi ei roi (gweler adrannau 4 ac 9).

(2)Mae’r canlynol yn weithgareddau trawsblannu at ddiben y Ddeddf hon—

(a)storio corff person ymadawedig i’w ddefnyddio at ddiben trawsblannu;

(b)tynnu o gorff person ymadawedig, i’w ddefnyddio at y diben hwnnw, unrhyw ddeunydd perthnasol y mae’r corff wedi ei gyfansoddi ohono neu y mae’n ei gynnwys;

(c)storio i’w ddefnyddio at y diben hwnnw unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol;

(d)defnyddio at y diben hwnnw unrhyw ddeunydd perthnasol sydd wedi dod o gorff dynol.

(3)Mae gweithgaredd trawsblannu o’r math a grybwyllir yn is-adran (2)(c) neu (d) yn gyfreithlon (heb yr angen am gydsyniad) pan y’i gwneir yng Nghymru—

(a)os yw’r deunydd perthnasol wedi ei fewnforio i Gymru o’r tu allan i Gymru, a

(b)os tynnwyd y deunydd o gorff person y tu allan i Gymru.