8Prif weithredwrLL+C
(1)Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.
(2)Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan [F1y Comisiwn] ar delerau ac amodau a benderfynir [F2ganddo] (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
[F3(2A)Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).]
(3)Cyn penodi prif weithredwr [F4o dan is-adran (2A),] rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
[F5(4)Ni chaiff y prif weithredwr fod—
(a)yn aelod Seneddol;
(b)yn Aelod o’r Senedd;
(c)yn aelod o awdurdod lleol;
(d)yn swyddog awdurdod lleol;
(e)yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
(5)Rhaid i’r Comisiwn, wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.]
Diwygiadau Testunol
F1Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(a), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F2Gair yn a. 8(2) wedi ei amnewid (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(2)(b), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F3A. 8(2A) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(3), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F4Geiriau yn a. 8(3) wedi eu mewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(4), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
F5A. 8(4)(5) wedi ei fewnosod (1.4.2021) gan Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (asc 1), aau. 163(5), 175(7); O.S. 2021/231, ergl. 3(a)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 8 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(a)