RHAN 2COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU
Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyol
8Prif weithredwr
(1)
Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.
(2)
F3(2A)
Ond os yw swydd prif weithredwr wedi bod yn wag am dros chwe mis, caiff Gweinidogion Cymru benodi prif weithredwr o dan unrhyw delerau ac amodau a bennir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran cydnabyddiaeth ariannol, pensiwn, lwfansau a threuliau).
(3)
Cyn penodi prif weithredwr F4o dan is-adran (2A), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.
F5(4)
Ni chaiff y prif weithredwr fod—
(a)
yn aelod Seneddol;
(b)
yn Aelod o’r Senedd;
(c)
yn aelod o awdurdod lleol;
(d)
yn swyddog awdurdod lleol;
(e)
yn aelod o awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(f)
yn gomisiynydd heddlu a throsedd ar gyfer ardal heddlu yng Nghymru.
(5)
Rhaid i’r Comisiwn, wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.