RHAN 2COMISIWN FFINIAU A DEMOCRATIAETH LEOL CYMRU
Staff, arbenigwyr a chomisiynwyr cynorthwyol
8Prif weithredwr
(1)
Rhaid i’r Comisiwn gyflogi prif weithredwr.
(2)
Mae’r prif weithredwr i’w benodi gan Weinidogion Cymru ar delerau ac amodau a benderfynir ganddynt (gan gynnwys amodau o ran tâl, pensiwn, lwfansau a threuliau).
(3)
Cyn penodi prif weithredwr, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Comisiwn.