xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 6LL+CDARPARIAETH AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

74Adolygiadau sy’n mynd rhagddynt ac arbedion eraillLL+C

(1)Bydd unrhyw adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan Ran 4 o Ddeddf 1972 ar yr adeg pryd y daw Rhan 3 o’r Ddeddf hon i rym yn cael ei gwblhau o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(2)Bydd effaith Rhan 4 o Ddeddf 1972 (ac unrhyw orchmynion neu reoliadau a wnaed o dan y Rhan honno) yn parhau at ddibenion adolygiadau o’r fath [F1ac at ddibenion cynigion a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn yr adeg honno] .

(3)Bydd unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 67 o Ddeddf 1972 (rheoliadau mewn cysylltiad â gweithredu argymhellion a chynigion o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno) sydd mewn grym ar ddyddiad cychwyn yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â gorchmynion o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon (gorchmynion sy’n gweithredu newidiadau yn dilyn adolygiadau) fel petai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

(4)Nid yw is-adran (3) yn cael effaith ond i’r graddau nad yw unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 41 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn a. 74(2) wedi eu mewnosod (25.1.2016) gan Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 2015 (anaw 6), aau. 43, 46(1)

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 74 mewn grym ar 30.9.2013, gweler a. 75(2)(d)