RHAN 6DARPARIAETH AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

I174Adolygiadau sy’n mynd rhagddynt ac arbedion eraill

1

Bydd unrhyw adolygiad sy’n cael ei gynnal o dan Ran 4 o Ddeddf 1972 ar yr adeg pryd y daw Rhan 3 o’r Ddeddf hon i rym yn cael ei gwblhau o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

2

Bydd effaith Rhan 4 o Ddeddf 1972 (ac unrhyw orchmynion neu reoliadau a wnaed o dan y Rhan honno) yn parhau at ddibenion adolygiadau o’r fath F1ac at ddibenion cynigion a gyflwynwyd i Weinidogion Cymru cyn yr adeg honno .

3

Bydd unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 67 o Ddeddf 1972 (rheoliadau mewn cysylltiad â gweithredu argymhellion a chynigion o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno) sydd mewn grym ar ddyddiad cychwyn yr adran hon yn cael effaith mewn perthynas â gorchmynion o dan Ran 3 o’r Ddeddf hon (gorchmynion sy’n gweithredu newidiadau yn dilyn adolygiadau) fel petai’r gorchmynion hynny wedi eu gwneud o dan Ran 4 o Ddeddf 1972.

4

Nid yw is-adran (3) yn cael effaith ond i’r graddau nad yw unrhyw reoliadau a wnaed o dan adran 41 o’r Ddeddf hon yn gwneud darpariaeth i’r gwrthwyneb.