RHAN 6DARPARIAETH AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

72Dehongli

(1)

Yn y Ddeddf hon, oni bai fod y cyd-destun yn gofyn yn wahanol—

mae “addasu” mewn perthynas â deddfiad yn cynnwys diwygio neu ddiddymu,

ystyr “ardal llywodraeth leol” yw cymuned neu brif ardal,

ystyr “awdurdod lleol” yw prif gyngor neu gyngor cymuned,

“cyfarfod cymunedol” yw cyfarfod o’r etholwyr llywodraeth leol ar gyfer cymuned a gynullwyd o dan adran 27(1) o Ddeddf 1972,

ystyr “Deddf 1972” yw Deddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70),

mae “deddfiad” yn cynnwys deddfiad sydd mewn is-ddeddfwriaeth,

ystyr “prif ardal” yw sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru,

ystyr “prif gyngor” yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru.

(2)

Mae Atodlen 3 (mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio) yn cael effaith.