Deddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013

[F169PCanllawiauLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff y Comisiwn ddyroddi canllawiau i awdurdodau perthnasol ynghylch sut i gydymffurfio â gofynion a osodir o dan y Rhan hon.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i’r Comisiwn ynghylch swyddogaethau’r Comisiwn o dan y Rhan hon.

(3)Mae pwerau’r Comisiwn a Gweinidogion Cymru i ddyroddi canllawiau o dan is-adrannau (1) a (2) yn cynnwys y pŵer i amrywio neu ddirymu canllawiau a roddir.

(4)Rhaid i awdurdod perthnasol, neu’r Comisiwn yn ôl y digwydd, roi sylw i ganllawiau a roddir o dan yr adran hon.]